Partneriaeth Bwyd Abertawe
Mae Partneriaeth Bwyd Abertawe (PBA) yn darparu cymorth a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau bwyd a diod ar draws Abertawe a Gŵyr.
Fe'i ffurfiwyd ym mis Medi 2019 mewn ymateb uniongyrchol i drafodaethau â busnesau bwyd gwledig yn Abertawe ac mae'n canolbwyntio ar weithio i greu cynnig bwyd bywiog a llewyrchus i Abertawe, cryfhau a byrhau cadwyni cyflenwi a gwella twristiaeth fwyd a phontio'r bwlch rhwng bwyd gwledig a threfol.
Ym mis Chwefror 2022, cyflwynodd y bartneriaeth ddigwyddiad yn Ocean View, Llanrhidian. Yn ystod y digwyddiad, nodwyd nifer o feysydd allweddol drwy ymgynghoriad â busnesau bwyd gwledig a thwristiaeth; ac yn fwy diweddar gyda'r grŵp partneriaeth craidd i ehangu cwmpas y gwaith ar draws Abertawe.
Blaenoriaethau'r bartneriaeth
- Gwell ymwybyddiaeth o/tuag at y cynnig bwyd/diod leol
- Gwell canfyddiadau (agweddau tuag at) o fwyd/ddiod leol - yn lleol ac yn ehangach
- Rhwydweithiau lleol gwell (busnesau i fusnesau a busnesau i ddefnyddwyr)
- Mwy o fwyd a diod yn cael eu cynhyrchu a'u prynu'n lleol, sy'n golygu:
- bod y diwydiant bwyd a diod yn defnyddio mwy o gyflenwyr lleol
- defnydd gwell (uniongyrchol) o fwyd a diod leol gan gymunedau lleol
- Gwell isadeiledd i gefnogi busnesau bwyd a diod yn lleol (sy'n canolbwyntio ar fusnesau cychwynnol/bach)
- Llai o wastraff bwyd (gan gynnwys pecynnu)
Gweithgarwch PBA
- Ffurfiwyd PBA ym mis Medi 2019
- Digwyddiad: Abertawe - Cyrchfan Bwyd - daeth 34 o brynwyr ac 14 o gynhyrchwyr i'r digwyddiad ym mis Chwefror 2020
- Cyngor Abertawe: Danfoniadau a chludfwyd - cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe ym mis Mawrth 2020 (ymateb i COVID-19)
- Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol PBA yn cefnogi busnesau bwyd lleol: 1180 o ddilynwyr ar Instagram
- Cefnogi datblygiad cyfeiriadur bwyd a diod de Cymru
- Cyfleoedd i rwydweithio a chyfeirio busnesau i fusnesau
- Datblygu ceisiadau am gyllid a chynorthwyo gyda hyn
- Datblygu cyfleoedd masnachol ar brosiectau cyfalaf
- Datblygiad prosiect yn bwydo i Gynllun Gweithredu Economaidd Partneriaeth Adfywio Abertawe
- Gweithdy PBA: Theori Newid
- Cysylltiadau PBA â Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe
- Gwaith datblygu ar gyfleoedd cadwyni cyflenwi
- Ymgynghoriad ar gyfryngau cymdeithasol i gefnogi cais y RhDG am astudiaeth dichonoldeb i fapio cynhyrchwyr lleol a lleihau cadwyni cyflenwi (cais yn llwyddiannus)
- Gwaith i gefnogi'r angen am rôl Cydlynydd Bwyd Lleol Datblygu Economaidd (llwyddiannus)
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Abertawe, e-bostiwch: partneriaethbwydabertawe@abertawe.gov.uk