Toglo gwelededd dewislen symudol

Bwletin Pwysig - Taliad Tanwydd y Gaeaf - 10 niwrnod yn weddill

Pensioner generic from Canva

Oherwydd newidiadau i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, mae'n bwysicach nag erioed sicrhau bod pobl dros oedran pensiwn yn hawlio'r taliadau sy'n dibynnu ar brawf modd sy'n ddyledus iddynt.

Er mwyn cael Taliad Tanwydd y Gaeaf eleni, rhaid bod pensiynwyr (gan gynnwys parau lle mae un person yn unig dros oedran pensiwn) wedi bod yn gymwys i hawlio budd-dal cymhwyso rhwng 16 a 22 Medi 2024. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae'r budd-dal cymhwyso wedi'i ôl-ddyddio i'r cyfnod hwnnw.

Mae'r canlynol yn fudd-daliadau cymhwyso:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Nid oes rhaid i bensiynwyr wneud unrhyw beth os oeddent eisoes yn derbyn un o'r budd-daliadau hyn rhwng 16 a 22 Medi. Er enghraifft, mae rhai pensiynwyr yn derbyn Credydau Treth ac mae rhai parau lle mae un ohonynt dan oedran pensiwn yn derbyn Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn golygu bod hawl ganddynt i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf eisoes.

Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am dri mis heb gyflwyno rheswm os bodlonir yr amodau.

Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid cyflwyno cais wedi'i ôl-ddyddio ar gyfer Credyd Pensiwn er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf erbyn 21 Rhagfyr fan bellaf. GWEITHREDWCH NAWR (oni bai eich bod eisoes wedi derbyn un o'r budd-daliadau uchod yn ystod yr 'wythnos gymhwyso')

A ydych yn aros am benderfyniad ar gais am Lwfans Gweini?

Os nad ydych wedi cael penderfyniad ar ôl cyflwyno cais am Lwfans Gweini cyn 22 Medi neu os ydych yn herio penderfyniad negyddol, ac nad ydych ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn. Cyflwynwch gais wedi'i ôl-ddyddio nawr; caiff y cais am y budd-dal hwn ei wrthod, ond os rhoddir Lwfans Gweini i chi, mae'n bosib y bydd hwn yn eich galluogi i dderbyn Credyd Pensiwn. Bydd angen i chi gyflwyno ail gais o fewn tri mis a gofyn am i'ch cais blaenorol gael ei ailystyried.

Mae hyn yn gymhleth, felly ceisiwch gyngor:

Advice Link Cymru                                  0800 7022 020

Canolfan Leol Cyngor ar Bopeth             0808 278 7926

Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi         0808 250 5700

Age Cymru                                              01792 648866

Cyfrifo eich Credyd Pensiwn - GOV.UK (dwp.gov.uk)

Credyd Pensiwn - Faint o Gredyd Pensiwn byddaf yn ei gael? | Turn2Us

Cyfrif budd-daliadau - beth gallaf ei hawlio? | Age UK

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Rhagfyr 2024