Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd chwarae newydd yn agor mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf

Mae ardal chwarae newydd sbon ar gyfer West Cross ac ardal chwarae sydd newydd gael ei huwchraddio ym Mhontarddulais wedi'u cwblhau mewn pryd ar gyfer gwyliau prysur yr haf.

west cross play area

Gorffennwyd y gwaith ar y safle ger glan y môr yn West Cross, ac mae gwaith i uwchraddio'r cyfleusterau chwarae ym mharc Coed Bach, Pontarddulais, hefyd wedi'i gwblhau.

Ar yr un pryd, mae'r cyngor wedi cytuno ar gynlluniau i wella saith lleoliad arall, y disgwylir i'r gwaith ddechrau dros yr wythnosau nesaf. Ar ben hynny mae cynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer 18 o ardaloedd chwarae eraill y cyngor mewn parciau ar draws y ddinas.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod y rownd ddiweddaraf hon o welliannau cynlluniedig yn dilyn y gwaith a wnaed i drawsnewid 43 o ardaloedd chwarae eraill ar draws y ddinas dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

Dywedodd fod yr adborth am y fenter wedi bod yn gadarnhaol iawn.

"Mae plant a'u teuluoedd eisoes yn mwynhau'r cyfleusterau newydd yn West Cross a Choed Bach. Byddant yn atyniad ychwanegol i blant lleol y mae eu gwyliau haf yn dechrau ar ddiwedd y mis.

Ychwanegodd, "Mae cwblhau'r rhaglen i wella pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn un o ymrwymiadau polisi'r cyngor. Rwy'n falch iawn bod cymaint o gynnydd yn cael ei wneud mor gyflym."

Mae'r ardal chwarae newydd yn West Cross yn Alderwood Road. Mae'n cynnwys siglenni, rowndabowt, uned ddringo a weiren wib. Fe'i hariannwyd yn rhannol gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls.

Mae'r ardaloedd chwarae newydd neu well sydd wedi bod yn ymddangos ar draws Abertawe yn cynnwys cyfarpar a ddewiswyd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol. Mae'r cyfleusterau'n amrywio o siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau gwib a fframiau dringo. Mae cyfarpar hefyd wedi'u cyflwyno ar gyfer plant ag anableddau.

Y saith safle diweddaraf i'w cymeradwyo ar gyfer gwaith gwella yw Brokesby Road, Bôn-y-maen, Denver Road, Fforest-fach, Parc yr Hafod a Pharc Ynystawe yn ogystal ag ardal chwarae Garnswllt yn ardal Mawr, Highmead yn y Mwmbwls a Heol Tir Du yn Nhreforys.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Dangosodd y pandemig pa mor bwysig oedd ardaloedd chwarae awyr agored am ddim i les ein plant a'n pobl ifanc.

"Yn ystod yr argyfwng, daethant yn un o'r ychydig fannau lle gallai plant gadw'n heini'n ddiogel a lle gallai ffrindiau a theuluoedd weld ei gilydd am sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol.

"Hyd yn hyn rydym wedi ymrwymo 5 miliwn o bunnoedd i'n cronfa ardaloedd chwarae ac mae cymunedau o Graig-cefn-parc i Gasllwchwr a Melin Mynach wedi gweld y manteision."

Mae'r safleoedd hynny sydd eisoes wedi derbyn ardaloedd chwarae newydd neu well yn cynnwys Mayhill, Uplands, Llansamlet, Gorseinon, Gelli Aur, Heol Frank, Parc Ravenhill, Weig Fawr a Pharc Cwmbwrla.

Mae Parc Dynfant yn Dunvant Meadow, Parc Bôn-y-maen ym Môn-y-maen, lle chwarae Pwynt Abertawe ym Mharc Maesteg a St Thomas ymysg eraill a fydd yn cael eu gwella dros y misoedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Close Dewis iaith