Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd ar fin mwynhau ardaloedd chwarae sydd wedi'u hailwampio

Bydd ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd sy'n mynd i rai o atyniadau mwyaf poblogaidd Abertawe yn mwynhau ardaloedd chwarae i blant sy'n newydd neu wedi'u hailwampio.

blackpill play artist impression

Bydd ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd sy'n mynd i rai o atyniadau mwyaf poblogaidd Abertawe yn mwynhau ardaloedd chwarae i blant sy'n newydd neu wedi'u hailwampio.

Diolch i gronfa ardaloedd chwarae £2.5m Cyngor Abertawe, mae cyrchfannau awyr agored poblogaidd yn Blackpill, Bae Bracelet, Parc Singleton, Parc Victoria a mannau eraill yn cael cyfleusterau ychwanegol i blant eu mwynhau.

Mae ardaloedd chwarae Parc Singleton a Pharc Victoria eisoes wedi'u hadnewyddu a disgwylir i gyfarpar newydd Blackpill a Bae Bracelet fod yn barod i'w ddefnyddio mewn pryd ar gyfer gwyliau ysgol prysur y Pasg ym mis Ebrill, sef dechrau traddodiadol y tymor twristiaeth.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Lido Blackpill eisoes yn un o'n cyrchfannau am ddim mwyaf poblogaidd i deuluoedd o Abertawe ac ymwelwyr o bell.

"Bydd yr ardal chwarae a'r cyfarpar newydd rydym yn ei osod yn hwb ardderchog i blant a fydd yn edrych ymlaen at ddiwrnod mas am ddim gwych. Caiff cyfarpar newydd ei osod yn yr wythnosau i ddod sy'n cynnwys siglenni, llithrennau, rowndabowts ac uned ddringo ar thema trên.

"Mae Bae Bracelet yn hynod boblogaidd hefyd, a bydd yr ardal chwarae newydd yno'n ychwanegiad newydd gwych at yr hyn sydd ar gynnig eisoes, a bydd yn cynnwys parth dringo ar thema llong, si-so sbonc a llawer mwy."

Mae'r ardal chwarae Parc Singleton ger y llyn cychod eisoes wedi'i hadnewyddu, felly hefyd yr un ym Mharc Victoria gerllaw, y disgwylir iddi gael cyfleusterau sglefrolio ychwanegol yn y misoedd ddod.

Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o gronfa uchelgeisiol £2.5m Cyngor Abertawe ar gyfer ardaloedd chwarae sydd â'r nod o wella neu greu ardaloedd chwarae ar gyfer cymunedau ledled Abertawe. Mae mwy nag 20 eisoes wedi cael eu cwblhau mewn mannau fel Gorseinon a'r Gelli Aur.

A bydd rhagor i ddod eleni wrth i'r cynllun gael ei ehangu i gynnwys lleoliadau ychwanegol o gwmpas y ddinas gan gynnwys Mayhill, Uplands, Bôn-y-maen a Llansamlet.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Trwy gydol y pandemig, mae Cyngor Abertawe wedi bod yno i bobl Abertawe. Wrth i ni ddod allan ohono, byddwn yn parhau i gefnogi'n cymunedau a theuluoedd y ddinas.

"Arhosodd ein parciau ar agor trwy gydol y pandemig ac roedd yn amlwg pa mor boblogaidd a phwysig yr oedd ardaloedd chwarae wrth alluogi plant i adael y tŷ a mynd allan i fwynhau ymarfer corff ac awyr iach yn ddiogel.

"Fe'n hysbrydolwyd gan hynny i ddefnyddio Cronfa Adferiad Economaidd £20m ddynodedig y cyngor i helpu i greu'r ardaloedd chwarae ochr yn ochr â grantiau Llywodraeth Cymru a chymorth gwych gan aelodau wardiau wrth iddynt ddefnyddio cyfran o'u cyllidebau."

I gael gwybod mwy am y genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae sy'n cael eu creu yn Abertawe, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd