Cymunedau'n dathlu ardaloedd chwarae newydd
Mae dwy gymuned yn Abertawe wedi bod yn mwynhau trît hanner tymor arbennig diolch i gynllun £5m y cyngor i greu neu wella ardaloedd chwarae'r ddinas.
Mae plant yn mwynhau ardaloedd chwarae newydd yn awr ar ôl iddynt gael eu hagor yn swyddogol yng Nghraig-cefn-parc a'r Weig Fawr yn y Cocyd.
Mae hyn yn golygu bod 25 o ardaloedd chwarae yn y ddinas wedi cael eu hailwampio, gyda'r nifer yn codi i fwy na 30 yn y misoedd i ddod.
Mae nodweddion yn y Weig Fawr, a agorwyd yn swyddogol ddydd Mawrth, yn cynnwys dwy uned siglenni, pyramid, llithren a rowndabowt cynhwysol.
Mae ardal chwarae newydd Craig-cefn-parc yn cynnwys siglenni, rowndabowt ac uned ddringo iau gyda llithren.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n hawdd gweld cymaint y mae plant yn mwynhau'r cyfle i fynd mas a mwynhau'r awyr iach a'r ymarfer corff yn y parciau penigamp hyn.
"Mae'r genhedlaeth newydd hon o ardaloedd chwarae yn ymddangos ar draws Abertawe ac yn yr wythnosau i ddod, rhagwelir y bydd gwelliannau'n cael eu cwblhau mewn mannau fel Blackpill a Bae Bracelet yn ogystal â Chasllwchwr a Pennard."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Arhosodd ein parciau ar agor trwy gydol y pandemig ac roedd yn amlwg pa mor boblogaidd a phwysig yr oedd ardaloedd chwarae wrth alluogi plant i adael y tŷ a mwynhau ymarfer corff ac awyr iach yn ddiogel.
"Fe'n hysbrydolwyd gan hynny i ddefnyddio Cronfa Adferiad Economaidd £25m y cyngor i helpu i greu'r ardaloedd chwarae ochr yn ochr â grantiau Llywodraeth Cymru a chymorth gwych gan aelodau wardiau wrth iddynt ddefnyddio cyfran o'u cyllidebau."
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd yr ardal chwarae a'r cyfarpar newydd rydym yn ei osod yn hwb ardderchog i blant a fydd yn edrych ymlaen at ddiwrnod mas am ddim gwych."
Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd