Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'n amser enwebu eich arwyr gofal plant a chwarae.

Mae rhieni, gofalwyr, neiniau a theidiau a chymuned ehangach Abertawe yn cael eu hannog i ddangos eu gwerthfawrogiad am weithlu gofal plant a chwarae hynod fedrus y ddinas.

Children playing - generic from Canva

Gallant enwebu lleoliad gofal plant neu chwarae yn awr ar gyfer Dathliad y Blynyddoedd Cynnar Abertawe 2024.

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â JR Events & Catering ar gyfer y noson wobrwyo fawreddog llawn glits a glam a gynhelir yn Neuadd Brangwyn nos Wener 15 Mawrth 2014.

Mae'r cyfle i enwebu lleoliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat bellach wedi cychwyn, a gellir enwebu meithrinfa ddydd, grŵp chwarae neu grŵp plant bach a rhieni. Bwriedir i'r gwobrau arddangos y rhain a'r timau gwych sy'n gweithio yno.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/dathliadBlynyddoeddCynnarAChwarae i enwebu, a gellir pleidleisio tan 15 Rhagfyr.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "I fi un o uchafbwyntiau eleni oedd mynd i'r digwyddiad hwn a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Mawrth.

"Rwy'n credu mai'r hyn a'm tarodd fwyaf oedd pam mor awyddus yr oedd rhieni a gofalwyr i rannu'r gwerthfawrogiad sydd ganddynt am y timau a'r unigolion rhagorol a sut roedd y noson yn dangos cymaint y mae pobl yn eu gwerthfawrogi a'r ffaith bod gan bobl feddwl mawr ohonynt.

"Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr i enwebu nawr fel y gallwn unwaith eto ddathlu'r gwaith neilltuol sy'n digwydd.

Y lleoliadau sy'n gymwys yw cyfleoedd chwarae fel gofal y tu allan i'r ysgol gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, cynlluniau chwarae mynediad agored a chaeedig, grwpiau rheini a phlant bach a chylchoedd Ti a Fi.

Mae Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol fel grwpiau Cylch, grwpiau chwarae, gofal ar ddechrau ac ar ddiwedd dydd a Dechrau'n Deg, ynghyd â gwarchodwyr plant a nanis hefyd yn gymwys

Mae manylion llawn ar gael ar y wefan enwebu.

 

Close Dewis iaith