Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau'n dathlu ardaloedd chwarae newydd

Mae tair cymuned yn Abertawe wedi bod yn mwynhau trît hanner tymor arbennig diolch i gynllun £5m y cyngor i greu neu wella ardaloedd chwarae'r ddinas.

play area opening cheers

Mae plant bellach yn mwynhau ardaloedd chwarae newydd ar ôl iddynt gael eu hagor yn swyddogol yn Nhreforys, Melin Mynach a blaendraeth Casllwchwr.

Mae hyn yn golygu bod dros 30 o ardaloedd chwarae yn y ddinas wedi cael eu hailwampio, gyda rhagor i ddod yn y misoedd i ddod.

Mae nodweddion ym Melin Mynach, a agorwyd yn swyddogol ar 15 Mawrth yn cynnwys llinell sip 3 metr, twnelu dringo yn ogystal â fframiau dringo, siglenni a thrampolîn.

Mae ardal chwarae newydd blaendraeth Casllwchwr hefyd yn cynnwys gwifren sip, fframiau dringo a llithren ac yn ardal chwarae Treforys mae ffrâm ddringo siâp pyramid, siglenni a rowndabout a gwifren sip.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod y cyngor yn ymrwymedig i wella pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn y ddinas.

Meddai, "Mae'n wych gweld cymaint y mae plant yn mwynhau'r cyfle i fynd mas a mwynhau'r awyr iach a'r ymarfer corff yn yr ardaloedd chwarae penigamp hyn.

"Mae'r genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae yn ymddangos ar draws Abertawe a rhagwelir y bydd y gwaith gwella wedi'i orffen mewn mannau eraill fel Blackpill a Bae Bracelet mewn da bryd ar gyfer gwyliau ysgol y Pasg."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Arhosodd ein parciau ar agor trwy gydol y pandemig ac roedd yn amlwg pa mor boblogaidd a phwysig yr oedd ardaloedd chwarae wrth alluogi plant i adael y tŷ a mwynhau ymarfer corff ac awyr iach yn ddiogel.

"Fe'n hysbrydolwyd gan hynny i ddefnyddio Cronfa Adferiad Economaidd £25m y cyngor i helpu i greu'r ardaloedd chwarae ochr yn ochr â grantiau Llywodraeth Cymru a chymorth gwych gan aelodau wardiau wrth iddynt ddefnyddio cyfran o'u cyllidebau."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd yr ardal chwarae a'r cyfarpar newydd rydym yn ei osod yn hwb ardderchog i blant a fydd yn edrych ymlaen at ddiwrnod mas am ddim gwych."

Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

Close Dewis iaith