Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad o £200,000 i wella mynediad at rwydwaith ardaloedd chwarae'r ddinas

Mae mynediad gwell at rai o ardaloedd chwarae poblogaidd rhwydwaith ein dinas ar ddod o ganlyniad i hwb ariannol o £200,000.

play area opening cheers

Mae'r cyngor eisoes wedi buddsoddi dros £7m i uwchraddio mwy na 50 o ardaloedd chwarae, ac mae mwy i ddod dros y misoedd nesaf.

Mae'r cyfan yn rhan o ymrwymiad y cyngor yn dilyn y pandemig i greu a gwella ardaloedd chwarae lle gall plant chwarae am ddim ac i helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, "Mae gwella ardaloedd chwarae wedi bod yn fenter boblogaidd iawn dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf. Bob tro rydyn ni'n agor un ohonynt, rydym yn derbyn llawer o adborth cadarnhaol a syniadau am welliannau pellach.

"Mae rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym ei fod yn anodd i rai pobl, yn enwedig y rheini ag anableddau, gael mynediad at yr ardaloedd chwarae mewn rhai ardaloedd a dyna'r rheswm pam rydym wedi clustnodi £200,000 arall i ddatrys y broblem.

"Byddwn yn gwneud asesiadau pellach ac yn ymgynghori â chynghorwyr i benderfynu pa ardaloedd chwarae y mae angen llwybrau cysylltiol arnynt fwyaf fel y gall ein timau ddechrau gweithio dros y misoedd nesaf.

"Dylai chwarae fod ar gael i bawb a dyna'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2024