Ardaloedd chwarae newydd yn datblygu'n dda yng nghymunedau'r ddinas
Bydd plant yn edrych ymlaen at weld y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'w hoff ardaloedd chwarae dros yr wythnosau nesaf.
Mae gwaith gwella yn ardal chwarae Long Ridge yn Townhill, sy'n cynnwys siglenni, fframiau dringo, byrddau picnic ac ardal gemau amlddefnydd fach, bron wedi'i gwblhau fel y gall plant fwynhau'r ardal.
Ac mae gwaith gwella pellach yn ardal chwarae Cwmbwrla ynghyd â gwaith i osod ardal gemau amlddefnydd newydd ym Mharc Treforys yn dechrau'r mis hwn (mis Medi).
Cynllun £7 miliwn arloesol Cyngor Abertawe i wella pob ardal chwarae awyr agored sy'n eiddo i'r Cyngor sy'n gyfrifol am y cynlluniau.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym wedi gwella mwy na 50 o ardaloedd chwarae cymunedol ers i'r ymgais gael ei lansio ac rydym yn bwriadu parhau dros y misoedd nesaf.
"Bydd ardal gemau amlddefnydd newydd Parc Treforys yn cynnwys cwrt pêl-fasged, tennis bwrdd awyr agored a bwrddteqballar gyfer unrhyw un sydd am roi cynnig ar un o'r campau sy'n datblygu gyflymaf yn y byd.
"Mae bwrdd teqball yn debyg iawn i fwrdd tennis bwrdd ond mae'n gêm o fedr a chywirdeb sy'n defnyddio pêl-droed yn lle padl a phêl maint pêl ping pong.
"Dyma'r bwrddteqball cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i osod yn unrhyw un o'n hardaloedd chwarae cyhoeddus, ac mae'n cydnabod poblogrwydd cynyddol teqballa'r potensial i gynnwys y gamp yn y Gemau Olympaidd nesaf yn Los Angeles."
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n bosib taw ein buddsoddiad mewn chwarae awyr agored i blant a phobl ifanc yw'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi a chefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw, a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau."