Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio Apêl y Pabi ym marchnad canol y ddinas

Bydd preswylwyr y ddinas yn talu teyrnged i'r rheini yn y Lluoedd Arfog sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn dilyn lansiad Apêl y Pabi eleni yn Neuadd Brangwyn.

Poppy launch 2024

Poppy launch 2024

Dewiswyd y lleoliad ar gyfer digwyddiadau i nodi dechrau'r fenter codi arian flynyddol sy'n cefnogi gwasanaethau ar gyfer aelodau presennol a blaenorol y Lluoedd Arfog.

Yn bresennol yn ystod y digwyddiad lansio oedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, ynghyd â Wendy Lewis, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet, a nifer o gynrychiolwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Rydym hefyd wedi trefnu digwyddiad Abertawe'n Cofio yn St David's Place ar 11 Tachwedd am 10.30am a Gwasanaeth Coffa yn Eglwys y Santes Fair ar 10 Tachwedd. Bydd hyn yn ychwanegol i ddigwyddiadau cymunedol niferus a gynhelir gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr mewn cymunedau ar draws Abertawe.

Meddai'r Cyng. Hood-Williams: "Mae llawer o bobl leol wedi gwneud yr aberth eithaf dros y blynyddoedd, gan roi eu bywydau fel y gallwn fwynhau'r rhyddid y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae eleni'n nodi 80 o flynyddoedd ers D-Day, lle collodd gynifer o bobl eu bywydau, er lles rhyddid.

"Byddwn yn annog pawb i roi yr hyn y gallant ei roi i'r apêl ac i wisgo'u pabi gyda balchder."

Bydd pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r Cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys rhai llyfrgelloedd, Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Hydref 2024