Toglo gwelededd dewislen symudol

Gall pawb dalu teyrnged i'r rheini sy'n gwasanaethu'r mis Tachwedd hwn

Bydd preswylwyr y ddinas yn talu teyrnged i'r rheini yn y lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu eu gwlad wrth i Apêl y Pabi lansio yn Neuadd Brangwyn ddydd Iau am ganol dydd.

Remembrance poppies

Dewiswyd y lleoliad yng nghanol y ddinas i nodi dechrau'r fenter codi arian flynyddol sy'n cefnogi gwasanaethau aelodau presennol a blaenorol y Lluoedd Arfog.

Yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Iau fydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas, ynghyd â Wendy Lewis, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet, a nifer o gynrychiolwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2023