Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Miloedd o dyllau yn y ffordd yn cael eu llenwi i gadw'r traffig i symud

Mae miloedd o dyllau yn y ffordd a channoedd o atgyweiriadau a gwelliannau ffyrdd a gefnogir gan £5.3m o arian y cyngor yn helpu traffig y ddinas i symud.

Highways staff fixing a pothole

Yn ystod y pedwar mis diwethaf, llenwyd bron 2,500 o dyllau yn y ffordd ac ers dechrau'r flwyddyn adnewyddwyd dros 200,000 m2 o arwynebau ffyrdd ar briffyrdd a strydoedd cefn yn Abertawe fel rhan o waith gwella sylweddol.

Ac yn ystod y mis diwethaf cwblhawyd dros 30,000 m2 o waith i osod arwynebedd gwrthsefyll sglefrio ar dros ddwsin o ffyrdd yn ystod y cyfnod cyn misoedd y gaeaf.

Mae'r ffyrdd yn cynnwys Trewyddfa Road yn Nhreforys, Ystrad Road yn Fforest-fach a Bohun Street yn Nhrefansel.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Er gwaethaf y pandemig, mae ein tîm priffyrdd wedi bod yn brysur iawn yn ystod 2021 yn llenwi miloedd o dyllau yn y ffordd, a llenwyd 99% ohonynt o fewn 48 awr o gael gwybod amdanynt.

"Rydym hefyd wedi ailwynebu milltiroedd o ffyrdd ar draws Abertawe a, diolch i brosiect poblogaidd PATCH, rydym wedi ymweld â phob ward ar draws y ddinas gan gyflawni gwelliannau cynnal a chadw gwerthfawr ar 22,500 metr sgwâr o ffyrdd ar gais aelodau'r ward ac aelodau'r cyhoedd.

"Cwblhawyd gwelliannau pellach i briffyrdd megis cynlluniau ailwynebu cyflawn yn gynharach yn y flwyddyn gyda nifer o ffyrdd yng nghymuned Townhill yn cael eu hailwynebu'n gyfan gwbl."

Mae'r gwaith diweddaraf yn dod yn ystod y cyfnod cyn y gaeaf lle mae effaith rhewi a dadlaith a thraffig trwm yn gallu achosi problemau a thyllau pellach yn y ffyrdd.

Meddai'r Cynghorydd Thomas, "Rydym yn ceisio gwneud popeth y gallwn i wneud ein ffyrdd mor gadarn â phosib yn ystod misoedd y gaeaf a dyna pam rydym wedi gwneud cymaint o ymdrech dros yr wythnosau diwethaf.

"Ond mae'n waith diddiwedd a byddwn yn annog preswylwyr i barhau i roi gwybod i ni pan fyddant yn dod o hyd i dyllau yn y ffordd fel y gall ein timau eu llenwi mor gyflym â phosib."

Er gwaethaf heriau'r pandemig, mae'r cyngor yn ceisio llenwi tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr i gael gwybod amdanynt. Gall preswylwyr adrodd amdanynt yma - www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd - a gallant dderbyn y diweddaraf o ran cynnydd os maent yn cynnwys eu cyfeiriad e-bost yn eu hadroddiad.

Cofiwch, po fwyaf yr wybodaeth a ddarperir, gorau fydd yr ymateb. Mae lluniau'n arbennig o ddefnyddiol.

 

 

 

Close Dewis iaith