Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Atgyweirio tyllau yn y ffyrdd i hwyluso teithio i fodurwyr

Mae gwelliannau i filoedd o dyllau yn y ffyrdd ac atgyweiriadau i gannoedd o ddiffygion yn y ffyrdd yn helpu i gadw traffig y ddinas i symud, diolch i gyllid gwerth £20m y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

pothole repair

Ers mis Ebrill, mae bron 6,000 o dyllau yn y ffyrdd wedi'u hatgyweirio, ochr yn ochr â nifer o brosiectau mawr a gwblhawyd i ailwynebu ffyrdd mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Er gwaethaf y tywydd gwael, ym mis Chwefror, atgyweiriodd ein tîm fwy na 500 o dyllau yn y ffordd, ac atgyweiriwyd 98% ohonynt o fewn 48 awr i'r cyhoedd adrodd amdanynt.

Yn ogystal â hynny, mae mwy na 2,500 o ddiffygion ffyrdd eraill a oedd wedi'u nodi gan beirianwyr y cyngor wedi'u trwsio dros yr 11 mis diwethaf.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r gwaith yn rhan o'n hymrwymiad i gynnal a gwella ein priffyrdd, gan hwyluso pethau i fusnesau, ymwelwyr a phreswylwyr.

"Y llynedd gwnaethom wario £8.1m ar ailwynebu ffyrdd ac atgyweirio tyllau yn y ffordd, ac eleni bydd £20m yn rhagor yn mynd tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd er budd modurwyr, beicwyr, busnesau a cherddwyr."

Meddai, "Mae ein timau cynnal a chadw priffyrdd wedi gwneud llawer o gynnydd eleni gan weithio'n galed i dargedu'r prif ffyrdd yr oedd angen eu hatgyweirio fwyaf.

"Dros y misoedd diwethaf maent wedi bod yn gwneud gwaith ailwynebu sylweddol yng Ngorseinon, Carmarthen Road, Parc Manwerthu Abertawe, Bethel Road, Llansamlet, Sketty Park Drive, Garngoch a Townhill.

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Mae'n bwysig deall na allwn atgyweirio popeth y mae angen ei atgyweirio mewn blwyddyn.

"Ond dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi atgyweirio mwy na 36,500 o dyllau yn y ffyrdd a diffygion ffyrdd, yn ogystal â chwblhau nifer o brosiectau ailwynebu ffyrdd ar brif ffyrdd ac ar strydoedd preswyl.

"Ein nod yw parhau i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cynnal a chadw a gwella ein ffyrdd."

Gall preswylwyr adrodd am dyllau yn y ffordd yma - www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd ac os ydynt yn darparu eu cyfeiriad e-bost bydd tîm priffyrdd y cyngor yn rhoi diweddariad o ran cynnydd iddynt.

Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth adrodd am dyllau yn y ffordd i gysylltu â ni i roi sylw am gyflwr y ffyrdd yn unig, bydd ein peirianwyr yn ystyried eich sylw fel rhan o raglen cynnal a chadw priffyrdd gyffredinol y cyngor.

Heblaw am adrodd am dyllau yn y ffordd, gallwch hefyd adrodd am gyflwr gwael ffyrdd drwy e-bostio'r tîm priffyrdd yn priffyrdd@abertawe.gov.uk

Bydd tîm y cyngor yn defnyddio'r wybodaeth hon i archwilio'r ffordd ac i ddiweddaru ei gofnodion a ddefnyddir wrth ystyried blaenoriaethau ar gyfer prosiectau ailwynebu ffyrdd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mawrth 2025