Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd o dyllau yn y ffordd yn cael eu hatgyweirio diolch i fuddsoddiad mewn priffyrdd

Mae miloedd o dyllau yn y ffordd a channoedd o atgyweiriadau a gwelliannau i ffyrdd yn helpu i gadw traffig y ddinas i symud diolch i gyllid gwerth £8.1m y Cyngor.

pothole repair

Ers mis Ebrill mae bron 3,500 o dyllau yn y ffyrdd wedi'u hatgyweirio, ochr yn ochr â nifer o brosiectau mawr i ail-wynebu ffyrdd mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Ym mis Medi, er gwaethaf y llifogydd a'r tywydd gwlyb, aeth ein tîm ati i atgyweirio 524 o dyllau yn y ffordd, a 98% ohonynt o fewn 48 awr i'r cyhoedd adrodd amdanynt.

Yn ogystal, nododd tîm peirianwyr ffyrdd y Cyngor mwy na 1,500 o ddiffygion eraill a chawsant eu trwsio rhwng mis Ebrill a mis Medi.

Daw'r gwaith diweddaraf yn y cyfnod cyn y gaeaf pan fydd effaith rhewi a dadmer ffyrdd a thraffig trwm yn gallu achosi problemau a rhagor o dyllau ar ein ffyrdd.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r gwaith yn rhan o'n hymrwymiad gwerth £8.1m eleni i gynnal a gwella ein priffyrdd, gan hwyluso pethau i fusnesau, ymwelwyr a phreswylwyr."

"Mae ein timau cynnal a chadw priffyrdd wedi gwneud llawer o gynnydd gan weithio'n galed eleni i dargedu'r prif ffyrdd yr oedd angen eu hatgyweirio fwyaf.

"Yn ogystal â'n gwasanaeth atgyweirio tyllau yn y ffordd, mae ein cynllun ail-wynebu bach wedi bod yn gweithio mewn cymunedau o amgylch y ddinas dros yr haf yn atgyweirio problemau ffyrdd mwy.

"Mae ein tîm priffyrdd hefyd wedi bod ym Mlaen-y-maes, Casllwchwr, Trefansel, Gendros, Pen-clawdd ac Uplands yn ddiweddar yn ail-wynebu prif ffyrdd a strydoedd preswyl."

Gall preswylwyr adrodd am dyllau yn y ffordd yma - www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd a chael diweddariad am gynnydd y cais os ydynt yn cynnwys eu cyfeiriad e-bost wrth adrodd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Tachwedd 2024