Problemau sŵn
Gall sŵn uchel beri gofid ac anesmwythyd i bobl yn eu cartrefi. Os ydych yn cael problemau gyda sŵn eithafol, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddatrys y broblem.
Sut gallwch fynd i'r afael â phroblemau sŵn?
Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r broblem gyda sŵn. Efallai nad ydynt yn sylweddoli bod problem yn bodoli ac yn aml byddant yn barod i helpu.
Beth gall y cyngor ei wneud am broblemau sŵn?
Synau y gallwn ddelio â hwy
Sŵn domestig - cerddoriaeth uchel, cŵn yn cyfarth, larymau clywadwy;
Sŵn masnachol/diwydiannol - sŵn o fangreoedd masnachol (e.e. siopau, tafarndai); ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol; sŵn adeiladu a dymchwel; larymau clywadwy
Cerbydau - larymau ceir; a stereos ceir (pan fo'r cerbyd yn llonydd).
Synau na allwn ddelio â hwy
- plant neu bobl ifanc sy'n achosi annifyrrwch
- gweiddi/sgrechian a chlepian drysau
- sŵn o draffig gan gynnwys pibellau gwacáu swnllyd
- awyrennau milwrol neu awyrennau sifil
- tân gwyllt (nid oes gan y cyngor unrhyw reolau lleol am danio tân gwyllt)
Sut i adrodd am broblem sŵn y gall y cyngor ddelio â hi
Gallwch adrodd am niwsans sŵn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod. Bydd angen i chi roi'ch enw a'ch cyfeiriad ac enw (os ydych chi'n ei wybod) a chyfeiriad y sawl sy'n achosi'r broblem.
Sut gallwch atal sŵn gormodol rhag dod o'ch cartref?
- peidiwch â rhoi seinyddion ar y waliau
- gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed cloch y drws uwchben y gerddoriaeth neu'r teledu
- cadwch lefel y sŵn yn isel yn hwyr yn y nos
- rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn cael parti
- peidiwch â gadael eich ci heb gwmni am gyfnodau hir
- os yw eich ci'n cyfarth, ceisiwch weld pam a'i dawelu
- peidiwch â defnyddio'ch peiriant golchi neu'ch peiriant sychu dillad yn hwyr yn y nos
- os ydych yn dychwelyd ar ôl noson mas, gwnewch ymdrech i fod yn dawel - caewch ddrysau car yn ysgafn a siaradwch yn dawel.
- yn fwy na dim, byddwch yn rhesymol os bydd eich cymydog yn dod atoch gyda phroblem.
Os ydych yn gwneud gormod o sŵn ac yn cael eich erlyn, bydd gan y cyngor y pŵer i fynd â'r holl gyfarpar a all gyfrannu at y niwsans. Mae hyn yn cynnwys setiau teledu a DVD, chwaraewyr Blue Ray, stereos, setiau radio, consolau gemau a chyfrifiaduron. Os cewch eich erlyn a'ch cael yn euog o greu niswans, bydd y cyngor yn gwenud cais i gadw'r eitemau hyn. Bydd gennych gofnod troseddol hefyd.
Cofiwch fod synnau'n rhy uchel os
- na allwch siarad â rhywun sydd dwy fetr i ffwrdd heb waeddu. Cymerwch hoe ac ewch i ardal dawelach
- gallwch glywed clychau bach yn eich clustiau ar ôl bod yn rhywle lle cafwyd lefelau uchel o sŵn.