Toglo gwelededd dewislen symudol

Problem gyda gwneud taliad ar-lein?

Os ydych chi'n cael problem wrth geisio talu am rywbeth ar-lein drwy ein system dalu, mae rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt cyn cysylltu â ni i roi gwybod amdano.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi clicio ar 'Gorffen' ar ddiwedd y broses dalu i gwblhau eich taliad.
  • Cliriwch hanes eich porwr - bydd yr opsiwn hwn yn newislen gosodiadau eich porwr gwe. Gallwch chwilio am gyfarwyddiadau ar ôl clirio hanes eich porwr ar gyfer eich porwr penodol ar Google neu beiriant chwilio arall.
  • Rhowch gynnig ar ddyfais arall - os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol, ydych chi'n gallu ceisio talu gan ddefnyddio tabled neu gyfrifiadur yn lle?
  • Os ydych yn defnyddio dyfais symudol, sicrhewch ei bod wedi'i diweddaru gyda'r feddalwedd ddiweddaraf.
  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio un o'r cardiau credyd neu ddebyd canlynol:
    • Visa
    • Mastercard
    • Maestro
    • Electron
  • Rhowch gynnig ar gerdyn talu arall os yw'n bosib, yn ddelfrydol, cerdyn o fanc gwahanol.

Os ydych yn dal i gael anhawster, cysylltwch â'r is-adran rydych chi'n ceisio'i thalu.

Close Dewis iaith