Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rhaglen gaffael yn arbed £12m y flwyddyn i'r cyngor

Mae busnesau lleol sy'n gweithio ar brosiectau adfywio mawr i Gyngor Abertawe yn helpu i arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn, gan hybu a diogelu swyddi.

Swansea at night

Mae cynlluniau yng nghanol y ddinas fel Arena Abertawe, trawsnewid Ffordd y Brenin a chreu'r hwb cymunedol newydd ar Stryd Rhydychen i gyd wedi elwa o'r ffaith bod cwmnïau lleol wedi ennill cyfrannau o'r gwaith contract.

Mae miliynau o bunnoedd o gyllid sydd wedi'i reoli gan y cyngor wedi cael ei wario yn Abertawe ar brosiectau treftadaeth eraill hefyd fel adfer Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a'r gwaith adnewyddu cyfredol ar y Bont Wrthbwys a Theatr y Palace.

Mae straeon llwyddiant busnesau bach a chanolig eu maint sy'n gwneud ceisiadau i weithio ar y prosiectau i gyd yn rhan o ymagwedd flaengar a masnachol y cyngor at brynu nwyddau a gwasanaethau, ac mae'n helpu i arbed tua £12 miliwn y flwyddyn.

Mae'r cyngor yn gwario tua £250m y flwyddyn i brynu nwyddau a gwasanaethau sy'n amrywio o ddeunyddiau adeiladu a gwasanaethau cludiant i ofal cymdeithasol a chefnogaeth ar gyfer addysg.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae model caffael Abertawe yn dangos sut rydym yn edrych ar bob punt rydym yn ei wario ac a yw'n cael ei defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon.

"Ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob yn ohonom, mae ymagwedd y cyngor at brynu nwyddau a gwasanaethau'n un lle mae pawb ar eu hennill, gan gynnwys busnesau lleol gan fod dros £100m o'n gwariant yn aros yn yr ardal leol gan gefnogi cyflogaeth leol."

Dywedodd y Cyng. Hopkins fod model caffael y cyngor yn helpu i leihau costau wrth gynnal a gwella ansawdd.

Dywedodd y Cyng. Hopkins y bwriedir i Fodel Caffael Abertawe sicrhau bod buddion cymdeithasol ei bŵer gwario'n parhau i gael effaith o ran cynhyrchu swyddi a phrofiad gwaith i bobl leol.

Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae prosiect arloesol Y Tu Hwnt i Frics a Morter Cyngor Abertawe yn nodwedd allweddol o'n model caffael. Mae'n sicrhau bod cwmnïau sy'n ennill contractau gyda ni'n cynnig prentisiaethau lleol a chyfleoedd gwaith a thâl i'r rheini na allant fel arall ddod yn rhan o'r farchnad swyddi.

"Ar hyd y blynyddoedd, mae cannoedd o bobl wedi elwa o'r cymalau budd cymdeithasol rydym yn cyflwyno yn ein contractau caffael, ac mae'n dda gweld bod awdurdodau lleol eraill a sefydliadau sector cyhoeddus yn dilyn ein hesiampl."

Close Dewis iaith