Toglo gwelededd dewislen symudol

Y pethau bach yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

Mae preswylwyr y ddinas yn cael eu hannog i 'Wneud y pethau bach' sy'n gwneud gwahaniaeth i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

project zero food

Mae Prosiect Sero Abertawe, partneriaeth ar draws y ddinas â'r nod o helpu'r ddinas gyflawni statws Sero Net erbyn 2050 wedi lansio ymgyrch fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, sy'n dechrau ar 11 Tachwedd.

Ac mae'n annog preswylwyr i gymryd camau bach fel ailgylchu mwy, defnyddio tymereddau oerach wrth olchi dillad yn eu peiriannau golchi a gwastraffu llai o fwyd i'n helpu i gyrraedd sero net.

Mae'r ymgyrch 'Gwneud y pethau bach' yn tynnu sylw at themâu allweddol o gwmpas dewisiadau dyddiol, arferion teithio, y defnydd o ynni ac arferion bwyd, y cefnogir pob un ohonynt gan ganfyddiadau ymarferol â'r nod o leihau olion traed carbon.

Gall pobl gymryd rhan mewn ffyrdd syml ac eto effeithiol. Er enghraifft, gall lleihau treuliant ynni fod mor syml â golchi dillad ar dymereddau oerach neu droi deial y thermostat i lawr gradd neu ddwy.

Mae'r fenter hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mabwysiadu arferion teithio gwyrddach fel cerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus pryd bynnag y gallwch gan eu bod yn newidiadau bach sy'n lleihau allyriadau ac yn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw.

Mae atgyweirio, ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau yn lle eu taflu yn arfer hollbwysig arall sy'n cael ei hyrwyddo drwy Brosiect Sero Abertawe.

Ceir rhagor o wybodaeth am Wythnos Hinsawdd Cymru yma: https://www.climateweek.gov.wales/CY/pages

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Tachwedd 2024