Prosiectau adfywio eraill
Mae hefyd nifer o brosiectau adfywio cyffrous eraill sy'n cael eu harwain gan y sector preifat.

Ardal y Dywysoges
Mae Ardal y Dywysoges yn ddatblygiad amlbwrpas sy'n cynnig 15,000 troedfedd sgwâr o le ansawdd uchel yng nghanol dinas Abertawe. Mae hefyd yn cynnwys unedau manwerthu ar y llawr gwaelod.
Rhagor o wybodaeth: https://kartay.co.uk/properties/commercial/princess-quarter/
Adeilad bioffilig
Bydd y cynllun hwn yn cynnwys nodweddion fel canolfan acwaponeg, lle arddangos, swyddfeydd a man preswyl. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, iard dirluniedig, paneli solar ar y to a storfa fatris.
Rhagor o wybodaeth: https://info4516874.wixsite.com/biophilicliving
254 i 260 Stryd Rhydychen
Chwe uned fanwerthu ar brif stryd siopa yng nghanol dinas Abertawe, gyda chynlluniau ailddatblygu hefyd i gynnwys tua 33 o fflatiau fforddiadwy newydd ar y lloriau uchaf.
Rhagor o wybodaeth: https://kartay.co.uk/properties/commercial/254-260-oxford-street/
Adeiladau'r Mond
Rhagwelir y bydd llawr gwaelod yr adeilad hanesyddol hwn - sy'n sefyll ar gornel Union Street a Park Street - yn cael ei gadw fel lle masnachol gyda'r lloriau eraill o bosib yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol a llety.
Rhagor o wybodaeth: https://www.instagram.com/stmaryssquaredevelopments
Castle Cinema
Cynnig y cynllun yw adfer ac addasu hen adeilad Castle Cinema i ddarparu 30 o gartrefi fforddiadwy ac unedau masnachol newydd.
Rhagor o wybodaeth: https://www.coastalha.co.uk/castle-cinema/
Cornel Kings Lane
Bydd y cynllun hwn yn darparu rhagor o gartrefi fforddiadwy, mannau agored wedi'u tirlunio a set o unedau tebyg i gynwysyddion cludo ar gyfer busnesau bach.
Rhagor o wybodaeth: https://www.coastalha.co.uk/kings-lane-corner/
Albert Hall
Mae Albert Hall, adeilad hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i 1864, wedi'i thrawsnewid yn lleoliad pedwar llawr sy'n cynnwys neuadd fwyd a bar ar y llawr gwaelod, gyda lle adloniant preifat, swyddfeydd, stiwdios, llety i ymwelwyr, campfa a gardd ar y to.
Rhagor o wybodaeth: https://www.albert-hall.co.uk/
Skyline
Cyrchfan hamdden awyr agored pwysig ar Fynydd Cilfái y bwriedir iddo gynnwys reidiau gondola, llwybrau ceir llusg ac atyniadau eraill.
Rhagor o wybodaeth: https://www.skylineswansea.co.uk/
Cynllun ynni adnewyddadwy
Mae prosiect mawr yn cael ei gynnig ar gyfer tir yn ardal porthladd Abertawe a fyddai'n cynnwys morlyn llanw, paneli solar arnofiol, canolfan ddata, canolfan drafnidiaeth ynni adnewyddadwy a llawer o nodweddion eraill.
Rhagor o wybodaeth: https://dst-innovations.net/contact/
1 Stryd Rhydychen
Bydd McDonald's a Taco Bell yn parhau ar y llawr gwaelod, a chyflwynir uned fanwerthu newydd a fydd yn wynebu Sgwâr y Castell. Caiff y lloriau uchaf eu hailddychmygu i gynnwys 29 fflat breswyl o ansawdd uchel.
Rhagor o wybodaeth: https://kartay.co.uk/properties/commercial/1-oxford-street-castle-square/