Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau hanfodol yn cael eu cryfhau, dywed adroddiad newydd.

Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n helpu i gefnogi pobl o bob oed ledled Abertawe'n parhau i gael eu cryfhau, yn ôl adroddiad newydd.

play-day-2023

Mae camau gweithredu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant lleol, gwarchod a hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol rhyfeddol a chryfhau cysylltiadau yn ein cymuned wedi helpu Abertawe i ddod yn lle da i fyw.

Dyna gasgliad adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe eleni sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed gan sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n cefnogi plant a theuluoedd, yn gwella iechyd a lles ac yn gweithio i leihau effaith newid yn yr hinsawdd.

Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Gwasanaethau sy'n cadeirio'r BGC yn Abertawe, y mae ei aelodau'n cynnwys cyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n fan lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gall fod.

"Eleni, rydym wedi gweld rhai straeon go arbennig sy'n dangos ein bod yn gwneud cynnydd da sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rheini sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn ddyddiol.

"Mae ein hymrwymiad i fenter y Blynyddoedd Cynnar a gwneud yn fawr o fuddsoddiad braenaru'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod plant yn Abertawe'n cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan osod y sylfaen ar gyfer llwyddiant gydol oes.

"Mae'r rhaglen Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda wedi gwella ansawdd bywyd preswylwyr ar bob cam o fywyd, gan feithrin cymuned lle gall pawb fyw'n dda.

Meddai, "Mae ein hamcan Cymunedau Cryf wedi cryfhau'r cysylltiadau yn ein cymunedau, gan feithrin a chyfoethogi ymdeimlad o falchder a pherthyn.

"Rydym yn adeiladu ar yr addewid a wnaethom wrth ddod yn Ddinas Hawliau Dynol yn 2022 i ddod â'n cymunedau ynghyd a sicrhau bod ein hymrwymiad yn cael ei adlewyrchu yn ein polisïau yn ogystal â'r gwaith rydym yn ei wneud yn ein cymunedau.

"Mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn wedi'i gydnabod yn rhyngwladol gan UNESCO, Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig.

Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Is-gadeirydd y BGC.

"Rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wrth gydnabod bod mwy o waith i'w wneud dros y blynyddoedd sy'n dod.

Mae aelodau BGC Abertawe yn croesawu'r angen i weithio ar y cyd i sicrhau bod ein sefydliadau sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn nodi cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd er budd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn cefnogi Rhwydwaith Abertawe Greadigol, rhwydwaith newydd y bwriedir iddo gynnig mwy o gyfleoedd chwaraeon, diwylliant a thwristiaeth gan bobl Abertawe i bobl Abertawe.

"Byddwn hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r cymunedau sy'n cefnogi ein dyheadau sero net ac adfer natur fel y gellir cynnal ein bioamrywiaeth drefol a gwledig anhygoel drwy'r heriau newid yn yr hinsawdd rydym yn eu hwynebu.

"Dyma ddwy enghraifft ymarferol yn unig o'r ffordd y mae'r BGC yn helpu i hyrwyddo gweithgareddau sy'n galluogi pobl Abertawe i fyw bywydau iachach, hapusach a boddhaus.

"Croesawn adborth a syniadau ar gyfer sut i wella pethau ymhellach i'n helpu i gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf."

Corff statudol yw'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i aelodau craidd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân  ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i rôl wth gefnogi cymunedau Abertawe, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/bgc

Gallwch hefyd gysylltu â Chydlynydd ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn uniongyrchol drwy e-bostio BGC.abertawe@abertawe.gov.uk

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Medi 2024