Toglo gwelededd dewislen symudol

Bwrdd yn ceisio barn ar ansawdd bywyd i helpu i lunio gwasanaethau'r ddinas

Gofynnir i breswylwyr o bob oed ledled Abertawe am eu barn ar ansawdd bywyd a lles yn y ddinas a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.

Swansea at night

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn gofyn i bobl dreulio 10 munud yn llenwi arolwg a fydd yn helpu i lunio ei flaenoriaethau a'r gwasanaethau hanfodol y mae ei bartneriaid yn eu darparu.

Drwy gael pobl i rannu eu profiadau a'u straeon, gall y bwrdd ddeall yr hyn sydd bwysicaf i breswylwyr.

Gallai fod yn addysg a hyfforddiant, cyfleoedd cyflogaeth a chymorth busnes, newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd naturiol, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol neu unrhyw fater arall.

Gellir dod o hyd i'r arolwg yma: www.swansea.gov.uk/psbassessment2022

Mae'r Bwrdd yn cynnwys ystod o bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus sy'n cynnwys Cyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac eraill.

Meddai'r Cynghorydd Andrea Lewis, Cadeirydd y Bwrdd, "Rydym yn gweithio ar y cyd â busnesau, y gymuned a grwpiau gwirfoddol a dinasyddion i wella lles Abertawe.

"Ein nod yw gwneud Abertawe'n lle gwell i bobl ac i'r blaned, nawr ac yn y dyfodol, ond er mwyn ein helpu i wireddu hyn mae angen dealltwriaeth gytbwys o ansawdd bywyd yn Abertawe a sut y gallwn ei wella.

"Mae ffeithiau ac ystadegau'n bwysig ond mae hefyd angen i ni ddeall sut beth yw bywyd i bobl yn Abertawe.

"Mae'r arolwg hwn yn gofyn i bobl Abertawe ein helpu i ddeall y pethau sydd o'r pwys pennaf iddyn nhw a'u cymuned. Drwy rannu eich profiadau a'ch straeon, gallwch ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf yn Abertawe a sut i'w wella."

Gall unrhyw un nad yw'n gallu cyrchu'r arolwg ar-lein gael copi caled drwy e-bostio BGCAbertawe@abertawe.gov.uk

Cynhelir yr arolwg tan ddydd Gwener 15 Hydref.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021