Cyfle i ddweud eich dweud: Arolwg Trechu Tlodi Abertawe 2025
Hoffem gael rhagor o wybodaeth am brofiadau pobl wrth gael mynediad at wasanaethau sy'n helpu i leihau effaith tlodi, neu ei atal, yn Abertawe.

Bydd eich adborth, eich mewnbwn a'ch barn yn darparu mewnwelediad a fydd yn ein helpu ni a'n partneriaid i ddeall yr hyn sydd o bwys i chi a'r hyn y gellid ei wneud i wella'r ffordd y mae gwasanaethau sy'n helpu i drechu tlodi'n cael eu cyflwyno yn Abertawe.
Mae'r arolwg yn gwahodd aelodau'r gymuned a sefydliadau i rannu eu barn ac i roi adborth.
https://www.abertawe.gov.uk/cyfleiDdweudEichDweudArolwgTrechuTlodi