Dim lle gwell nag Abertawe gyda'r nos
Mae canol dinas Abertawe'n ymdrechu i sicrhau statws y Faner Borffor unwaith eto eleni.

Abertawe oedd y lle cyntaf yng Nghymru i ennill statws y Faner Borffor a'r tro hwn rydym yn gobeithio ei sicrhau am yr 11eg flwyddyn yn olynol.
Dyfernir statws y Faner Borffor gan yr ATCM (Cymdeithas Rheolwyr Trefi a Dinasoedd) ac ymwelodd aseswyr ar ran y corff hwnnw, John Miley ac Anne Bettison, â chanol dinas Abertawe'n ddiweddar. Gwnaeth y mentrau diogelwch gyda'r hwyr yn y ddinas greu argraff ffafriol iawn arnynt.
O wella goleuadau i atgyfnerthu diogelwch, mae Abertawe'n arwain y ffordd o ran sicrhau bod bywyd nos yn fwy diogel i bawb.
Un nodwedd flaenllaw oedd pwynt cymorth Gerallt Davies St John Ambulance Cymru ar y Strand, sy'n darparu cymorth hanfodol i ddathlwyr ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys lleol.
Rhan wych arall yw marsialiaid tacsis Ardal Gwella Busnes Abertawe yn Caer Street, sydd yno i'ch helpu i gyrraedd adref yn ddiogel ar ôl noson allan yng nghanol y ddinas. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfanswm anhygoel o 154,423 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth.
Diolch yn fawr i bawb dan sylw.