Gwers 5 - Pysgod i'm Teulu
Mae Pysgod i fy Nheulu yn edrych ar sut y gall plant gynnal arolwg ar aelodau o'u teulu i ganfod beth yw eu harferion bwyta pysgod. Mae'r thema hon yn helpu i gyflwyno Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth.
Bydd y wers hon yn galluogi plant i:
Adnabod rhai o'r buddion sylfaenol o fwyta pysgod;
Gwybod y dylai pawb fwyta mwy o bysgod (dau ddogn yr wythnos - a dylai un ohonynt fod yn olewog);
Fod yn greadigol wrth lunio hysbyseb i berswadio eu teulu i fwyta mwy o bysgod, gan ddefnyddio'r wybodaeth maent wedi'i ddysgu am bysgod a dyfeisiau sy'n perswadio, e.e. iaith gadarnhaol.
Cynllun gwers
Defnyddiwch y PowerPoint Oeddech chi'n gwybod? i siarad gyda'r plant am bysgod a'u manteision i iechyd.
Gallwch ddefnyddio'r BGRh Mae pysgod yn wych i atgyfnerthu gwybodaeth y plant am bysgod.