Gwers 6 - Pysgod a Ffitrwydd
Mae pysgod a ffitrwydd yn edrych ar bwysigrwydd bwyta diet iach, yn egluro sut mae ymarfer corff yn effeithio eu cyrff ac yn eu hannog i wneud addunedau iechyd ar gyfer y dyfodol i aros yn ffit ac yn iach. Mae'r thema hon yn cysylltu â Datblygiad Corfforol yn y cwricwlwm cyfredol.
Bydd y wers hon yn galluogi plant i:
Wybod ei bod yn bwysig i fwyta'n dda a bod yn fywiog i aros yn iach;
Gallu egluro sut mae eu cyrff yn teimlo cyn ac ar ôl gweithgaredd;
Gwneud addunedau iechyd ar gyfer y dyfodol.
Cynllun gwers
Esboniwch i'r plant bod angen inni fod yn egnïol yn ogystal â bwyta'n iach a dylai gynnwys bwyta dau ddogn o bysgod yr wythnos.
Defnyddiwch y PowerPoint Eistedd llai, symud mwy, bod yn egnïol i siarad gyda'r plant am weithgaredd. Efallai yr hoffech brofi beth maen nhw wedi ei ddysgu trwy ddefnyddio'r BGRh Gweithgaredd a fi.