Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes bwyd yn cael ei gau yn y fan a'r lle gan arolygwyr hylendid oherwydd pla o lygod mawr

Clywodd llys fod cymaint o faw llygod mawr a llygod yn y busnes storio a dosbarthu bwyd yng Nghlydach y bu'n rhaid i swyddogion hylendid bwyd ei gau yn y fan a'r lle.

trading standards rodent infestation

Roedd swyddogion Cyngor Abertawe yn ymweld ag AT Catering yn Lone Road, Clydach, i drafod gyda'r perchennog Abu Taleb a oedd angen cymeradwyaeth reoleiddiol ar y busnes.

Ond cawsant eu syfrdanu gymaint gan gyflwr yr adeilad a faint o faw llygod a oedd o amgylch yr uned yr aethant ati i gyhoeddi hysbysiad brys yn lle hynny a chau'r busnes i lawr.

Fodd bynnag, dywedwyd wrth Lys Ynadon Abertawe er iddo dderbyn yr hysbysiad, nid oedd Taleb wedi cydymffurfio ag ef a'i fod wedi parhau i gyflenwi busnesau â bwyd wedi'i storio yn y safle, gan roi iechyd defnyddwyr mewn perygl.

Ar 26 Ionawr, ymddangosodd Taleb, o Ael y Bryn, Fforest-fach, gerbron Llys Ynadon Abertawe a phlediodd yn euog i chwe chyhuddiad hylendid a diogelwch bwyd a gorchmynnwyd iddo dalu £5,340 mewn dirwyon a chostau.

Dywedodd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Cyngor Abertawe, fod yr amodau storio bwyd yn yr eiddo ymysg y gwaethaf y mae'r swyddogion wedi'u gweld ers blynyddoedd.

Meddai, "Roedd cyflwr yr adeilad mor wael nes i'r swyddogion a oedd yn bresennol weithredu ar unwaith a chau'r busnes i lawr yn y fan a'r lle.

"Roedd tyllau yn y waliau yn caniatáu cnofilod i mewn ac allan o'r adeilad a oedd yn amlwg yn cael eu denu gan faint o fwyd oedd ar gael ac ni allai ein swyddogion ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod trefniadau rheoli plâu priodol ar waith."

Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae pobol Abertawe'n haeddu teimlo'n sicr bod y bwyd ar eu plât yn ddiogel i'w fwyta. Mae mwyafrif llethol y cyflenwyr bwyd yn gwybod y rheolau ac yn cadw atynt."

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023