Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymunwch â'n timau gofalgar a thosturiol

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe yn cynnal digwyddiad recriwtio arall a'r tro yma bydd cyfleoedd am rolau yn y gwasanaethau preswyl a gofal dydd ac ar gyfer cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol.

Social services recruitment ad Welsh

Social services recruitment ad Welsh

Ddydd Gwener (9 Medi) bydd staff sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y gwasanaeth yn hwb cyflogaeth dros dro Abertawe'n Gweithio yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant i siarad am y swyddi sydd ar gael ac i ateb cwestiynau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio amdanynt.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, Louise Gibbard, "Mae ein Gwasanaethau Cymdeithasol yn chwilio am bobl sy'n gefnogol, yn ofalgar ac yn dosturiol.

"Dylai fod ganddynt y sgiliau i gyfathrebu'n dda â phobl i wneud gwahaniaeth i'w bywydau.

"Mae'r rolau hyn sydd ar gael sydd â chyfrifoldeb ac eto'n werth eu gwneud yn gallu cynnig hyblygrwydd fel eu bod yn addas ar gyfer eich ffordd o fyw a'ch amgylchiadau.

"Byddwn yn annog unrhyw rai sydd â diddordeb i fynd yno os gallant gan ei fod yn gyfle gwych i glywed yn bersonol am y gwasanaethau hanfodol y mae'r timau hyn yn eu darparu."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r hwb dros dro sydd gyferbyn â siop HMV, ddydd Gwener rhwng 10am a 2pm.

Gellir dod o hyd i swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol hefyd ar wefan Cyngor Abertawe yn https://www.abertawe.gov.uk/swyddigofalcymdeithasol

Close Dewis iaith