Abertawe'n cofio y mis Tachwedd hwn
Mae gardd goffa dros dro newydd yn cael ei hagor y penwythnos nesaf yng nghanol y ddinas wrth i Abertawe gofio'r meirwon y mis Tachwedd hwn.
Bydd yr Ardd Goffa y tu allan i westy Morgan's a chaiff ei bendithio'n swyddogol ar 3 Tachwedd mewn digwyddiad a arweinir gan y Ficer Eglwys y Santes Fair, y Parchedig Justin Davies.
Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Paxton Hood-Williams, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cyng. Wendy Lewis ynghyd â'r dirprwy arweinydd ar y cyd sef y Cyng. David Hopkins, a'r Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.
Mae agoriad yr Ardd Goffa newydd yn rhan o'r digwyddiadau a gynhelir yn Abertawe yn y cyfnod sy'n arwain at 11 Tachwedd. Ar y diwrnod hwnnw, bydd pobl wrth brif Senotaff y ddinas ar lan y môr a ger cofebau eraill, ynghyd â busnesau a chartrefi, yn distewi am 11am ar gyfer y distawrwydd dwy funud.
Bydd yr Arglwydd Faer a'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor yn bresennol wrth y Senotaff ar 11 Tachwedd. Bydd y dirprwy arweinwyr ar y cyd, y Cyng. Andrea Lewis a'r Cyng. Hopkins, yn ogystal â'r Cyng. King a'r Cyng. Wendy Lewis yno hefyd i dalu eu teyrngedau.
Bydd St David's Place yn y ddinas yn distewi hefyd am ddwy funud ar 11 Tachwedd mewn digwyddiad arbennig sef Abertawe'n Cofio a drefnir gan y Cyngor a changen leol Y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Mae'r canlynol ymysg y digwyddiadau coffa eraill a gynhelir yn y cyfnod cyn Tachwedd 11:
- 3 Tachwedd, 2pm Eglwys y Drindod, Abertawe. Gwasanaeth personél lluoedd arfog y gorffennol a'r presennol a chyn-filwyr Normandi, y bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. King a'r Cyng. Wendy Lewis yn mynd iddo.
- 8 Tachwedd, 9am. Gwasanaeth Coffa Ysgol Tregŵyr, y bydd yr Arglwydd Faer yn mynd iddo.
- 9 Tachwedd, 6am ar gyfer 7pm. Gŵyl y Cofio Y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Neuadd Brangwyn y bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. King a'r Cyng. Wendy Lewis yn mynd iddo. Mae croeso i'r cyhoedd ddod os gallwch chi. Does dim angen tocynnau arnoch, ond byddwch yn eich sedd erbyn 6.30pm.
- 10 Tachwedd, 10.30am ar gyfer 11am. Gwasanaeth y Senotaff. Gyda'r Arglwydd Faer yn bresennol. Bydd yr Arweinydd, y Cyng. Hopkins, y Cyng. Andrea Lewis a'r Cyng. Wendy Lewis yn mynd i ddigwyddiadau'r cofio yn eu wardiau.
- 10 Tachwedd, 2pm Cynhelir Gorymdaith Goffa Abertawe yn Stryd Rhydychen.
- 10 Tachwedd, 2am ar gyfer 2.30pm. Eglwys y Santes Fair. Gwasanaeth Coffa. Bydd yr Arglwydd Faer, yr Arweinydd, y dirprwy arweinwyr y Cyng. King a'r Cyng. Wendy Lewis yn bresennol.
- 11 Tachwedd, 6.45am ar gyfer 7.15am - Seremoni 'Poppies to Paddington' yng Ngorsaf Reilffordd Abertawe, y bydd yr Arglwydd Faer, yr Arweinydd a'r Cyng. Wendy Lewis yn mynd iddi.
- 11 Tachwedd, 10.15am ar gyfer 11am. Y Senotaff, Abertawe Gwasanaeth Dydd y Cofio. Bydd yr Arglwydd Faer, yr Arweinydd, y Cyng. Hopkins, y Cyng. King a'r Cyng. Wendy Lewis yn mynd iddo.
- 11 Tachwedd, 10.30am ar gyfer 11am. Abertawe'n Cofio - St David's Place Bydd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cyng. Wendy Fitzgerald a'r Cyng. Andrea Lewis yn bresennol.
- 15 Tachwedd, ganol dydd Cofeb y Gwn Gwrthawyrennol ger y ddwy bont ar Fabian Way. Ailgysegru a dadorchuddio cofeb 'Bechgyn Cilfái'. Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Andrea Lewis a'r Cyng. Wendy Lewis yn bresennol.
- Bydd adeiladau dinesig yn Abertawe'n distewi am 11am ar 11 Tachwedd ar gyfer y distawrwydd dwy funud cenedlaethol.
- Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch fel y pabi ar nosweithiau 10 ac 11 Tachwedd.
Bydd pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r Cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys Marchnad Abertawe, sawl llyfrgell a'r Ganolfan Ddinesig.