Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ailwynebu ffyrdd yn helpu i gadw'r ddinas i symud

Gallai gwaith ar gynllun ailwynebu ffyrdd gwerth £200,000 mewn cymuned yn y ddinas ddechrau mor gynnar â'r wythnos nesaf.

road resurfacing

Daw'r prosiect yn Townhill Road, Mayhill, wrth i gynllun ailwynebu mawr ar ffordd brysur Carmarthen Road ddod i ben ac mae'n dilyn cynlluniau i ailwynebu dros 2.5km o ffyrdd y mis hwn a'r mis nesaf, gan gynnwys Mumbles Road a Birchgrove Road.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Fis diwethaf cytunodd y Cabinet i wario £1m ychwanegol eleni fel rhan o'n cynlluniau i fuddsoddi £5 miliwn ychwanegol yn rhwydwaith y ddinas dros y tair blynedd nesaf.

"Carmarthen Road yw un o'r ffyrdd prifwythiennol prysuraf ac, er gwaethaf y tywydd gaeafol a gwlyb a gawsom yn ddiweddar, disgwylir i'r gwaith ailwynebu gael ei gwblhau o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf.

"Rydym hefyd yn cysylltu â phreswylwyr yn Townhill Road, Mayhill, i roi gwybod iddynt y disgwylir i waith ddechrau yno ar 29 Ionawr, yn amodol ar y tywydd.

"Mae preswylwyr Townhill Road wedi bod yn gofyn i'r gwaith gael ei wneud ers sbel, ac er bod rhywfaint o darfu'n anochel, bydd ein contractwyr yn gwneud popeth y gallant i sicrhau bod hynny'n digwydd cyn lleied â phosib."

Mae'r gwelliannau ar ben addewid tyllau yn y ffordd y cyngor a oedd wedi cynnwys llenwi dros 750 o dyllau yn y ffordd a achoswyd gan dywydd gaeafol a gwlyb difrifol yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr yn unig.

Gallwch adrodd am dwll yn y ffordd yma: www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd

 

Close Dewis iaith