Rheoli plâu
Os oes gennych broblem gyda phlâu megis llygod, llygod mawr, chwain a gwenyn meirch, gallwch drefnu ymweliad gan y tîm rheoli plâu.
Oherwydd nifer y galwadau y mae'r gwasanaeth rheoli plâu yn ei dderbyn, gall gymryd hyd at 5-10 niwrnod i drefnu ymweliad i drin eich plâu.
Ceir manylion am ein ffioedd cyfredol isod. Mae'r rhain ar gyfer triniaeth yn ystod oriau swyddfa (8.30am - 5.00pm dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am-4.30pm dydd Gwener).
Darperir triniaeth y tu allan i oriau swyddfa ond codir tâl o £150.00 (ac eithrio TAW) am yr holl alwadau hyn.
Math o bla | Tâl am driniaeth mewn eiddo domestig | Tâl am driniaeth mewn eiddo annomestig a masnachol |
---|---|---|
Llygod mawr Chwilod duon | Am ddim | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £92.00 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif |
Llau gwely | Am ddim | Yn anffodus, nid ydym yn darparu triniaeth ar gyfer llau gwely mewn eiddo masnachol |
Llygod | £92.00 (taliad sengl ar gyfer hyd at 5 ymweliad) Nid ymdrinnir â llygod sydd y tu allan, gan eu bod yn organebau nad ydynt yn cael eu targedu. | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £92.00 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif. |
Chwain Clêr | £92.00 gan gynnwys TAW | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £92.00 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif |
Gwenyn meirch | £92.00 gan gynnwys TAW | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £92.00 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif |
Gwenyn
Nid ydym yn cymryd camau yn achos gwenyn oherwydd, er nad ydynt yn cael eu gwarchod, eu bod dan fygythiad.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wenyn a sut i'w trin ar wefan y British Pest Control Association (Yn agor ffenestr newydd).
Os oes gennych haid o wenyn, efallai yr hoffech gysylltu â Swansea and District Beekeepers' Society (Yn agor ffenestr newydd) a all eich helpu i gael gwared arni.
Gallwch hefyd adrodd am haid o wenyn mêl ar wefan Bee Swam (Yn agor ffenestr newydd). Byddant yn rhoi gwybod i wenynwyr lleol a fydd yn gallu dod i gasglu'r haid. Peidiwch ag oedi. Po gyflymaf rydych chi'n adrodd am yr haid, gyflymaf y bydd gwenynwyr yn dod i ymdrin â hi a'r hawsaf y bydd i ailgartrefu'r gwenyn.
I gael gwybodaeth benodol am wenyn, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn (Yn agor ffenestr newydd).
Gwiwerod
Nid yw'r cyngor yn darparu gwasanaeth ar gyfer trin problemau sy'n ymwneud â gwiwerod llwyd mewn eiddo. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r dolenni canlynol:
https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/wildlife/animals/greysquirrels/keepout
Morgrug
Nid yw'r cyngor yn darparu gwasanaeth ar gyfer trin problemau sy'n ymwneud â phla morgrug. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r ddolen ganlynol
https://bpca.org.uk/a-z-of-pest-advice/ant-control-how-to-get-rid-of-ants-bpca-a-z-of-pests-/188954
Trefnu triniaeth ar gyfer plâu
I drefnu triniaeth, llenwch ein ffurflen ymholiad rheoli plâu.
Ffurflen ymholiad rheoli plâu Ffurflen ymholiad rheoli plâu
Tenantiaid tai cyngor
Mae'n bosib y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn talu am driniaeth mewn tai cyngor. Dylech gysylltu â'ch swyddfa dai ranbarthol am fwy o wybodaeth.
Hawlwyr budd-daliadau
Rydym yn cynnig pris gostyngol o £31.50 ar gyfer triniaeth rheoli plâu i aelwydydd sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol,
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn Gwarantedig
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Ebrill 2024.