Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau'n cael eu buddsoddi mewn ffyrdd yn y flwyddyn i ddod

Bydd y rhaglen ailwynebu ffyrdd cymunedol hynod boblogaidd, PATCH, yn cael hwb fel rhan o fuddsoddiad gwerth £6.4m mewn ffyrdd ar draws y ddinas yn y flwyddyn i ddod.

Highways staff fixing a pothole

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo rhaglen o waith ar 17 Mawrth er mwyn atgyweirio ffyrdd, gwella llwybrau troed ac uwchraddio goleuadau stryd ar draws pob cymuned yn y ddinas.

Lluniwyd y pecyn o fesurau i atgyweirio ffyrdd a hefyd wneud gwaith i atal ffyrdd sydd mewn cyflwr da rhag dirywio.

Mae'r adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Mawrth yn nodi os cymeradwyir hyn, caiff £700,000 ei fuddsoddi yng nghynllun PATCH a chaiff £1.3m ychwanegol ei wario ar ailwynebu ffyrdd gerbydau yn ogystal ag adnewyddu troedffyrdd ac atgyweiriadau. Rhoddir £250,000 er mwyn atgyweirio goleuadau stryd ac oddeutu £500,000 ar gyfer draenio ac atal llifogydd yn ystod glaw trwm.

Yn ogystal â hyn, clustnodir oddeutu £1.5m ar gyfer prosiectau ailwynebu argyfwng  ac £1m i orffen gwaith gosod goleuadau LED sy'n arbed arian ac ynni ar y rhwydwaith goleuadau stryd. Caiff bron £500,000 ei wario i gynyddu cerbydlu trydan y cyngor, sef y cerbydlu trydan mwyaf ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd Cronfa Adferiad Economaidd y cyngor hefyd yn cyfrannu £330,000 ychwanegol i ehangu'r cynllun PATCH.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y gronfa briffyrdd yn fuddsoddiad sylweddol er mwyn gwella ffyrdd a llwybrau troed yng nghymunedau'r ddinas.

Meddai, "Mae ein rhaglen atgyweirio ffyrdd PATCH wedi bod ar waith ers rhai blynyddoedd yn y ddinas ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth fynd i'r afael ag atgyweiriadau sy'n fwy na thwll yn y ffordd.

"Dylai bod pawb yn y ddinas yn elwa o ble maent yn byw am ein bod yn cynllunio'r gwaith fel bod ein timau cynnal a chadw priffyrdd yn ymweld â phob ward ac yn targedu rhannau gwaethaf y ffyrdd a nodwyd yn ystod ein harchwiliadau rheolaidd.

"Oherwydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yng nghyllideb y cyngor, byddwn yn ehangu gwaith y tîm PATCH yn ein holl gymunedau dros y flwyddyn nesaf."

Bydd rhagor o arian yn cael ei neilltuo er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o atgyweiriadau sy'n cael eu monitro yn ystod archwiliadau rheolaidd o'r priffyrdd ac mae'n cynnwys atgyweirio tyllau yn y ffordd a gwella palmentydd.

Meddai'r Cyng. Thomas, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae ein timau priffyrdd wedi bod yn weithredol iawn, ac maent wedi ymdrin â thros 4,000 o dyllau yn y ffordd dros y misoedd diwethaf. Yn ogystal â hyn, mae'r cyngor wedi clirio dros 6,000 o draeniau dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i arian ychwanegol gan y Gronfa Adferiad Economaidd.

Ychwanegodd, "Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn isadeiledd priffyrdd ein dinas. Rydym yn gyfrifol am ystod eang ac amrywiol o asedau priffyrdd gan gynnwys dros 1,100km o ffyrdd, goleuadau stryd, meysydd parcio a signalau rheoli traffig." 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2022