Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb swyddi i fusnesau bach yng Ngorseinon

Mae busnes yn y ddinas yn creu unedau busnes bach mawr eu hangen mewn parc menter poblogaidd gyda help gan Gyngor Abertawe.

construction generic

Mae'r cwmni toeon lleol, MA Hartley Roofing Contractors Ltd, wedi cael cymorth gan Gronfa Datblygu Eiddo'r Cyngor i adeiladu uned ddiwydiannol fawr newydd yn Ystad Ddiwydiannol Garngoch, Gorseinon, a fydd yn cynnwys pum uned lai i'w rhentu i fusnesau lleol.

Dywedodd Mark Hartley, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, fod y gwaith trawsnewid yn datblygu'n dda.

Ychwanegodd, "Rydym yn gwybod bod galw am unedau busnes ar raddfa fach yn yr ardal a bydd ein cynlluniau'n galluogi busnesau bach i greu swyddi a chefnogi'r gymuned leol.

"Mae'r ffaith bod ein buddsoddiad yn y safle ar Phoenix Way yn cael ei gefnogi gan grant o Gronfa Datblygu Eiddo'r Cyngor yn rhoi hwb o hyder ar gyfer ein cynllun."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r Cyngor yn falch iawn o gefnogi MA Hartley Roofing Contractors Ltd gyda'r prosiect hwn.

"Mae'r Gronfa Datblygu Eiddo ar gael i gefnogi busnesau sydd am greu swyddi a chefnogi eu heconomi leol drwy adeiladu, ailwampio neu ehangu adeiladau presennol.

"Drwy ddarparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau na fyddai modd eu cyflawni fel arall, rydym yn gweithio gydag entrepreneuriaid lleol i ennyn diddordeb yn y cyflenwad o fangreoedd busnes ac unedau diwylliannol o safon." 

Sicrhaodd Cyngor Abertawe'r cyllid ar gyfer y Gronfa Datblygu Eiddo drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024