Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwely ar gael bob amser i bobl sy'n cysgu allan yn ystod y tywydd oer

Bydd gwely ar gael i bob pob person sy'n cysgu allan yn Abertawe y gaeaf hwn os ydyn nhw am gael un, mae'r cyngor wedi addo.

View of Swansea

Mae'r cyngor am atgoffa pobl o'i addewid 'gwely ar gael i bawb' sydd ar waith drwy'r flwyddyn sy'n cael ei gyflawni gan y cyngor ochr yn ochr ag elusennau lleol, gwasanaethau iechyd a chymdeithasau tai wrth i nosweithiau'r gaeaf oeri.

Er bod heriau sylweddol o'n blaenau, mae'r cyngor wedi addo parhau â'r ymdrech a wnaed i gefnogi pobl sy'n cysgu allan drwy'r pandemig a'u helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach.

Meddai'r Cynghorydd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, fod yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ers y pandemig wedi helpu'r cyngor i ddiogelu pobl sy'n cysgu allan yn gynt.

Meddai, "Ein haddewid yw bod gwely i unrhyw un sydd ei angen. Ochr yn ochr â'n partneriaid, rydym yn cyfleu'r neges i bobl sy'n cysgu allan, ni waeth pa mor ddiamddiffyn y maent yn teimlo, mae bob amser gwely ar gael iddynt.

"Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a gwaith partneriaeth cadarn rhwng elusennau lleol, iechyd, cymdeithasau tai a darparwyr y sector preifat, mae unrhyw un y canfuwyd ei fod yn cysgu allan wedi cael cynnig llety a'r gefnogaeth angenrheidiol i gynnal ei lety, a bydd y gefnogaeth hynny'n parhau.

"Ers dechrau'r pandemig rydym wedi helpu mwy na 1,100 o bobl ddigartref sengl i adael llety dros dro a naill ai wedi'u cefnogi i ddod o hyd i dai â chymorth neu eu cartref parhaol eu hunain.

"Mae cyllid ychwanegol ar gyfer 2022-23 yn golygu y gallwn gadw pobl yn ddiogel rhag cysgu allan a darparu cymorth i gael mynediad at atebion tai mwy parhaol."

Meddai, "Cyn i'r pandemig daro roedd y cyngor eisoes yn gweithio'n galed i roi diwedd ar gysgu allan. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant yr hyn a gyflawnwyd, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â chysgu allan a digartrefedd."

Os ydych chi'n gweld person yn cysgu allan ac rydych chi'n meddwl bod angen cymorth arno, gallwch chi ei helpu drwy adrodd amdano i'r sefydliad Streetlink ar-lein neu drwy'r ap yn www.streetlink.org.uk - bydd eu tîm yn trosglwyddo'r wybodaeth ymlaen i'r cyngor a'i bartneriaid er mwyn gweithredu.

Close Dewis iaith