Toglo gwelededd dewislen symudol

Gall pob person sy'n cysgu ar y stryd gael gwely y gaeaf hwn

Mae'r cyngor wedi addo cynnig gwely i bob person sy'n cysgu ar y stryd yn Abertawe os bydd ei angen arno.

homeless hub

Mae'r addewid hirsefydlog yn cael ei ailadrodd i bobl ddiamddiffyn sy'n byw yn y ddinas wrth i nosweithiau'r gaeaf ddod yn oerach.

Cyflwynir yr addewid 'gwely bob amser' gan y Cyngor, ar y cyd ag elusennau, gwasanaethau iechyd a chymdeithasau tai lleol.

Er bod heriau sylweddol ar ddod, mae'r Cyngor wedi addo i barhau i ymdrechu i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd dros y blynyddoedd diwethaf ers y pandemig.

Mae'r addewid yn ogystal ag ymgyrch 'Yma i chi y gaeaf hwn' y Cyngor, sy'n werth £650,000, a ddyluniwyd i gefnogi teuluoedd yn ystod y gaeaf a thros gyfnod y Nadolig.

Os ydych chi'n gweld person sy'n cysgu ar y stryd yr ydych yn credu bod angen cymorth arno, gallwch ei helpu trwy gysylltu â sefydliad StreetLink ar-lein neu drwy'r ap yn www.streetlink.org.uk - bydd y tîm yn trosglwyddo'r wybodaeth i'r cyngor a'i bartneriaid i weithredu.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am gymorth Cyngor Abertawe ar gyfer pobl ddigartref yma: https://www.abertawe.gov.uk/helpargyferpoblddigartref

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024