Gwahodd ceisiadau am gyllid i roi hwb i gymunedau gwledig Abertawe
Mae ceisiadau am gyllid bellach ar agor ar gyfer prosiectau sydd â'r nod o roi hwb i gymunedau gwledig Abertawe.

Mae cyllid grant gwerth £200,000 yn cael ei ryddhau ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi themâu gan gynnwys yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles.
Mae'r cyllid yn rhan o brosiect angori gwledig sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau angori gwledig, gan gynnwys gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion ynghylch sut i gyflwyno cais. Mae'r grant ar gael o 1 Ebrill 2025. Cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio RuralanchorSPF@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich syniad, rydym yma i'ch helpu.