Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol i ddigwyddiad gwledig

Mae gan grwpiau gwledig sydd â syniadau disglair i ddod â'u cymunedau ynghyd yn y cyfnod cyn y Nadolig gyfle i wireddu eu breuddwydion.

Ploughed field on Gower

Mae Cyngor Abertawe wedi sefydlu cronfa untro newydd sydd â'r nod o gefnogi digwyddiadau lleol bywiog sy'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn meithrin cydlyniant cymunedol ac yn cefnogi busnesau gwledig yn yr ardal.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i ymgeiswyr cymwys hawlio hyd at £7,000 fesul digwyddiad a bydd yn cael ei ddyfarnu ar sail y cyntaf i'r felin. Anogir ceisiadau gan sefydliadau nid er elw, gan gynnwys grwpiau cymunedol, elusennau a chyrff cyhoeddus.

Mae'r cyllid ar gael i gefnogi ystod eang o ddigwyddiadau, o wyliau ar thema treftadaeth sy'n cynnwys gwerthwyr lleol i ddigwyddiadau bwyd sy'n tynnu sylw at y cynnyrch lleol gorau, yn ogystal â gweithdai crefft sy'n dathlu bywyd gwledig a gwaith artistiaid o Abertawe.

Cyflwynir y fenter gan Gyngor Abertawe, gyda chymorth y Grŵp Cynghori Gwledig a daw'r arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno cais, e-bostiwch ruralanchorspf@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2024