Yr Hwylbont eiconig yn cael ei huwchraddio
Bydd pont boblogaidd yn Abertawe'n cael ei huwchraddio i wella'r arwyneb i filoedd o gerddwyr a beicwyr.

Pont fwyaf eiconig y ddinas yw'r Hwylbont, a agorodd i'r cyhoedd yn 2003 ac sy'n croesi afon Tawe.
Mae'n cael ei defnyddio gan gannoedd o bobl bob dydd ac fel llwybr ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr yn y ddinas.
Mae Cyngor Abertawe'n buddsoddi oddeutu £40,000 i ddisodli'r hen arwyneb gwrthlithro sy'n gorchuddio'r llwybr cerdded ac sydd wedi bod yno ers i'r bont agor.
Mae'r gwaith hefyd yn rhan o fuddsoddiad y cyngor o filiynau o bunnoedd mewn isadeiledd priffyrdd a gadarnhawyd yn gynharach eleni, gan gynnwys ail-wynebu prif ffyrdd ar draws y ddinas yn ystod 2025/26.
Bydd y bont ar gau i'r cyhoedd am y pythefnos nesaf fel y gellir cwblhau'r gwaith uwchraddio.
Ceir llwybrau cerdded amgen ar draws Pontydd Tawe a thros Bont Trafalgar sydd ymhellach ar hyd yr afon.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r Hwylbont yn un o'n tirnodau mwyaf poblogaidd ac fe'i defnyddir yn rheolaidd gan y cyhoedd.
"Ers ei hagoriad swyddogol yn 2003, mae'n debyg bod miliynau o bobl wedi'i chroesi.
"Yn naturiol, mae ôl traul ar yr arwyneb gwreiddiol ac rydym am sicrhau y gall pobl ei defnyddio a'i mwynhau am flynyddoedd i ddod.
"Bydd y gwaith uwchraddio arfaethedig yn ein galluogi i ddisodli'r arwyneb gwrthlithro ac ailagor y bont cyn gynted â phosib.
"Bydd pob pont arall yn yr ardal ar agor ac yn hygyrch a dylid eu defnyddio fel dewis amgen yn ystod y cyfnod y bydd ar gau."