Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o ysgolion y ddinas i ymuno â menter ysgolion noddfa

Gallai rhagor o ysgolion yn Abertawe gael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud i greu diwylliant diogel, cynhwysol a chroesawgar i bawb, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Schools - coloured pencils (generic)

Mae deg ysgol gynradd a thair ysgol gyfun yn Abertawe eisoes wedi'u hachredu'n Ysgolion Noddfa, gan gynnwys tair ysgol a enillodd y statws yn ystod y 12 mis diwethaf.

Nawr mae rhagor o ysgolion ar draws y ddinas yn cael eu hannog i ymuno â'r rhaglen sy'n ceisio dangos eu bod yn ymrwymedig i greu diwylliant o groeso diogel a chynhwysol sydd o fudd i bawb, gan gynnwys unrhyw un yn eu cymuned sy'n ceisio noddfa ac i rannu eu gwerthoedd a'u gweithgareddau a'u cymunedau lleol.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu,

"Rwy'n falch iawn bod gennym restr gynyddol o ysgolion sydd wedi ennill yr achrediad Ysgolion Noddfa hwn yn Abertawe, sef Dinas Noddfa gyntaf a Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

"Ein huchelgais yw parhau i ymestyn y rhwydwaith hwn o ysgolion fel bod disgyblion a'u teuluoedd yn teimlo bod gan yr ysgol lle maent yn dysgu ynddi ddiwylliant diogel a chynhwysol.

"Mae angen i'r Ysgolion Noddfa hefyd ddangos eu bod yn helpu eu myfyrwyr, eu staff a'r gymuned ehangach i ddysgu am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ceisio noddfa a'r materion sy'n ymwneud ag ymfudo dan orfod."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024