Rhybydd am sgam
Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod yn derbyn negeseuon testun gan Gyngor Abertawe yn honni eu bod wedi derbyn hysbysiad o dâl cosb, ac yn gofyn am fanylion banc.

Sylwer mai sgam yw hon ac os ydych yn derbyn neges o'r fath, peidiwch ag ymateb iddi.
Ni fydd Cyngor Abertawe byth yn anfon negeseuon testun am hysbysiadau o dâl cosb. Bydd hysbysiadau o dâl cosb a roddir gan y Cyngor naill ai'n cael eu gosod ar gerbyd neu'n cael eu hanfon drwy lythyr i gartref perchennog cofrestredig y cerbyd.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 12 Medi 2024