Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at addysg ragorol.

Mae uchelgais Abertawe i sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl o ran cael mynediad at addysg ragorol yn cael hwb pellach.

classroom stock photo

Mae'r Cyngor wedi datgelu gweledigaeth newydd ar gyfer dysgwyr anabl i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod o bwys, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, fel y gallant gyflawni eu potensial yn yr ysgol,

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi ymrwymo i wario £44m ar ysgol newydd ar gyfer yr 21ain ganrif i bobl ifanc ag anableddau dwys yn ogystal â miliynau'n rhagor i sicrhau bod digon o leoedd mewn Cyfleusterau Addysgu Arbenigol i'w cael ar gyfer y dysgwyr hynny y mae arnynt eu hangen.

Nawr mae strategaeth anabledd newydd wedi'i chyhoeddi sy'n dod â'r syniadau gorau ynghyd i wella'r gefnogaeth i ddysgwyr ag anableddau ymhellach a chryfhau ymrwymiad y Cyngor i'w llwyddiant.

Disgwylir i'r Cabinet ystyried y strategaeth ar 24 Hydref.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Hydref 2024