£2.5m o fuddsoddiad ychwanegol mewn ceginau ysgol
Disgwylir i £2.5m o arian ychwanegol gael ei wario ar geginau ysgol a diweddaru cyfarpar wrth i Abertawe weithio i ehangu'r cynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd.


Bydd yn golygu y bydd dros £4.3m wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion fel y gellir cynnig cinio poeth i bob disgybl ar bob diwrnod o'r tymor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Yn Abertawe mae dros 2,400 o ddisgyblion dosbarth derbyn eisoes wedi cael cynnig prydau ysgol am ddim ers i'r ysgol ailddechrau ym mis Medi.