Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad gwerth £1.7m yn rhoi hwb i welliannau cynnal a chadw ysgolion

Bydd ysgolion yn elwa o fuddsoddiad o fwy nag £1.7m gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru mewn gwelliannau cynnal a chadw ac adeiladu hanfodol yn y ddinas yn ystod y flwyddyn sy'n dod.

classroom stock photo

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo'r rhaglen waith bwysig pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf.

Mae mwy na £500,000 yn cael ei gyfeirio i bum ysgol gynradd i roi hwb pellach i'w cyfleusterau cegin yn sgil llwyddiant cyflwyno prydau ysgol am ddim i'r holl ddisgyblion cynradd.

Bydd Ysgol Gyfun Treforys yn cael £180,000 ar gyfer gwaith ailwynebu a chlustnodwyd £120,000 i Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ar gyfer gwaith sylfaen.

Bydd Ysgol Gyfun yr Olchfa yn cael £270,000 ar gyfer ystod o welliannau i'w chegin, ei boelerdy a'i systemau cyflenwi dŵr o'r prif gyflenwad.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2024