Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau hanfodol i ysgolion

Bydd ysgolion y ddinas yn elwa o gronfa ariannol o £7.9m ar gyfer gwaith cynnal a chadw a chynlluniau gwella hanfodol dros y flwyddyn sydd i ddod.

Empty classroom

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Abertawe'n datgelu cynlluniau i neilltuo'r arian ar gyfer gwelliannau sy'n amrywio o osod toeon newydd ar 16 o ysgolion yn y ddinas i welliannau i nifer o ganolfannau gwasanaethau cymdeithasol y cyngor.

Caiff cyfanswm o £360,000 ei wario ar Ysgol Gyfun Pontarddulais i uwchraddio'r rhwydweithiau gwifrau a rheiddiaduron a chaiff lifft newydd ei gosod yn Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan.

Yn ogystal â hynny, clustnodwyd £250,000 ar gyfer gwelliannau cynnal a chadw ac atgyweirio'r to yn Theatr y Grand.

Os cymeradwyir yr adroddiad i'r Cabinet ar 17 Mawrth, cynhelir prosiectau toi gwerth mwy na £850,000 yn ysgolion cynradd Llandeilo Ferwallt, Ystumllwynarth, Ynystawe, Hendrefoelan ac YGG Gŵyr yn ogystal ag yn ysgolion cyfun yr Esgob Gore a'r Olchfa .

Ariennir y rhaglen gan y cyngor ynghyd â £3.6m mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'u neilltuo'n llwyr i wella ysgolion.

Mae hyn ar ben Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n werth £150m - sef y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion newydd a gwelliannau yn Abertawe, yn ogystal â'r gwariant mwyaf erioed ar ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol y cytunodd y cyngor arno yn ei gyllideb flynyddol yr wythnos diwethaf.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y flwyddyn i ddod ar welliannau cynnal a chadw hanfodol ar gyfer ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus.

"Fel cyngor rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw addysg i ddisgyblion, rhieni a staff, ond hefyd i les economaidd ein dinas ar gyfer y dyfodol.

"Mae ein gwariant ar y gyllideb cynnal a chadw cyfalaf yn dangos sut y mae blaenoriaethau'r cyngor yn cyd-fynd â blaenoriaethau pobl Abertawe ac, ar yr un pryd, yn helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o welliannau cynnal a chadw y mae eu hangen ar ein hysgolion a'n canolfannau gwasanaethau cymdeithasol."

Ychwanegodd, "Mae'r rhaglen yn ystyried ymrwymiad y cyngor i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni."

 

Close Dewis iaith