Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Dim angen i ddisgyblion fynd heb gynhyrchion misglwyf

Mae ysgolion yn Abertawe wedi derbyn cynhyrchion misglwyf am ddim fel nad oes unrhyw ddisgybl hebddynt.

Empty classroom

Empty classroom

Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae holl ysgolion uwchradd y ddinas wedi derbyn pum becyn o badiau diblastig i bob merch fynd adref â nhw bob tymor ysgol ers mis Medi, gyda rhagor o gyflenwadau'n cael eu cadw mewn ysgolion ac ar gyfer ysgolion cynradd.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau a'r Hyrwyddwr Menywod, Louise Gibbard, "Mae'r ffocws ar ddarpariaeth gyffredinol yn y grant hwn yn bwysig iawn gan fod tlodi'r misglwyf yn aml yn gysylltiedig â dau stigma - yn anffodus mae llawer o chwithigrwydd ynghylch y misglwyf o hyd ac mae hefyd gywilydd ynghylch diffyg arian.

"Mae gorfod gofyn i'r athro am rywbeth yn heriol iawn i nifer o bobl ifanc, ond mae rhoi cyflenwadau i'r holl ddisgyblion heb fod angen iddynt ofyn amdanynt yn helpu i normaleiddio'r misglwyf a chynhyrchion am ddim. "Rydym yn gobeithio y bydd yn ffordd arall rydym yn helpu teuluoedd yn Abertawe gyda'r argyfwng costau byw."

Mae cynhyrchion misglwyf hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Abertawe, ein lleoliadau diwylliannol fel y Glynn Vivian ac Amgueddfa Abertawe, trwy wasanaethau ieuenctid, banciau bwyd a thrwy nifer o wasanaethau eraill a grwpiau gwirfoddol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2022