Toglo gwelededd dewislen symudol

Bin Môr wedi'i osod ym Marina Abertawe i fynd i'r afael â sbwriel morol.

Mae'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus wedi ymuno â Chyngor Abertawe i lansio treial Bin Môr arloesol ym Marina Abertawe.

marina seabin litter

Mae'r genhadaeth yn glir: Mynd i'r afael â sbwriel morol yn uniongyrchol i amddiffyn ein hamgylchedd morol.

marina seabin sign litter

Mae'r dechnoleg arloesol hon wedi'i dylunio i gael gwared ar sbwriel a malurion arnofiol, gan wella glendid dyfroedd y marina wrth helpu i ddiogelu'r amgylchedd ehangach.

Mae'r Bin Môr yn ddyfais siâp bwced sy'n codi ac yn disgyn gyda'r llanw, gan gasglu sbwriel arnofiol a malurion. Wrth i ddŵr gael ei dynnu i mewn gan bwmp, mae'n mynd trwy fag dal, gan ddal y gwastraff. Yna mae dŵr glân yn cael ei bwmpio yn ôl allan, tra bod sbwriel a malurion yn cael eu cadw'n ddiogel i'w gwaredu'n iawn. Wedi'i bweru 24 awr y dydd, mae gan y Bin Môr gapasiti o 30 litr i gasglu gwastraff, a fydd yn lleihau effeithiau sbwriel ar draws yr ardal leol.

Bydd y Bin Môr yn cael ei fonitro dros gyfnod prawf i ymchwilio i'r hyn y mae'n ei gasglu, ac i wirio am unrhyw effeithiau anfwriadol neu ryngweithio â bywyd gwyllt. Gallai unrhyw ddata sbwriel a gesglir gael ei ddefnyddio i ategu tystiolaeth bresennol i gefnogi mentrau newydd fel Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol:

"Bydd y Bin Môr yn hynod drawiadol, arloesol ac amgylchedd-gyfeillgar i ddal sbwriel a malurion yn y Marina.

"Mae'n ein helpu i fynd gam ymhellach i helpu i gadw'r atyniad hanfodol hwn a'r gymuned yn lân ac yn daclus ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus ar y fenter bwysig hon.

"Wrth gwrs byddai'n llawer gwell pe na bai pobl yn gollwng sbwriel yn y lle cyntaf. Ond bydd y Bin Môr yn ein helpu i warchod amgylchedd y Marina a chefnogi ein hymdrechion i gadw'r broblem sbwriel dan reolaeth."

Dywedodd Phil Budd, Swyddog Prosiect Abertawe Cadwch Gymru'n Daclus:

"Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn. Bydd y Bin Môr yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i leihau'r sbwriel sy'n effeithio ar ein dyfrffyrdd lleol a'r amgylchedd morol ehangach. Mae'r bartneriaeth hon gyda Chyngor Abertawe yn gam pwysig ymlaen yn ein cenhadaeth gyffredin i amddiffyn dyfroedd Abertawe rhag sbwriel a malurion."

Dywedodd Angharad James, Swyddog Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru'n Daclus:

"Mae'n gyffrous iawn gweld y Bin Môr ar waith yn y marina! Gydag 80% o sbwriel morol yn tarddu o ffynonellau tir, rydym yn gobeithio y bydd y Bin Môr yn arf arloesol yn ein brwydr yn erbyn llygredd morol. Nid yn unig y bydd yn glanhau'r dŵr, ond rydym yn gobeithio y bydd y treial yn codi ymwybyddiaeth am symudiadau sbwriel a'i effeithiau parhaol ar ein hamgylchedd a bywyd gwyllt".

Ariennir menter Bin Môr gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Chwefror 2025