Mynediad am ddim i Gastell Ystumllwynarth i blant ysgol Abertawe
Mae disgyblion ysgolion cynradd Abertawe bellach yn cael y cyfle unigryw i archwilio safle hanesyddol Castell Ystumllwynarth am ddim yn ystod sesiynau dethol dros yr wythnosau nesaf.

Gall plant sy'n gwisgo eu gwisgoedd ysgol lleol fwynhau mynediad am ddim pan fyddant yn mynd i'r swyddfa docynnau ar ôl 3pm ar ddyddiau'r wythnos yn ystod y tymor. Bydd y castell ar agor bob dydd tan 5pm, gyda'r mynediad olaf am 4:30pm.
Yn ogystal, gall plant dan bump oed barhau i fwynhau mynediad am ddim drwy gydol yr oriau agor.
Mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn falch o reoli'r fenter hon â'r nod o ddarparu profiad cyfoethog a chost isel i ddysgwyr ifanc. Bydd y cynnig ar gael tan ddiwedd mis Medi yn ystod y tymor.
Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, "Dyma gyfle gwych i rieni a neiniau a theidiau sy'n casglu plant o'r ysgol i fwynhau profiad fforddiadwy, difyr ac addysgol."
Mae Castell Ystumllwynarth, sydd uwchben glan môr golygfaol y Mwmbwls gyda golygfeydd dros Fae Abertawe, yn gwahodd teuluoedd i fwynhau ei swyn hanesyddol. Peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld ag ef - mae ar agor bob dydd rhwng 11am a 5pm ac yn ystod penwythnosau ym mis Hydref.
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau, teithiau tywys ac oriau agor, ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth