Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith Men's Sheds y ddinas yn dyblu diolch i gefnogaeth

Mae nifer y cyfleusterau Men's Sheds sy'n darparu cefnogi cymdeithasol, cyfeillgarwch a'r cyfle i rannu a dysgu sgiliau newydd i ddynion a menywod ar draws Abertawe wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf.

Llansamlet Men's Shed

Llansamlet Men's Shed

Mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi dros £100k mewn cefnogi grwpiau newydd, a rhai sydd eisoes yn bodoli, ac eleni roedd 22 o gyfleusterau Men's Sheds yn y rhwydwaith wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid.

Pedair blynedd yn ôl roedd nifer y cyfleusterau Men's Sheds yn Abertawe mewn ffigurau sengl.

Mae cyfleuster Men's Shed Llansamlet ymysg y rheini a gafodd eu lansio eleni.

Mae'r grŵp wedi meddiannu hen safle Pafiliwn Pensiynwyr Gellifedw am rent rhad gan y Cyngor ac mae wedi derbyn cymorth ariannol tuag at y gwaith parhaus i ailwampio'r adeilad.

Meddai Cadeirydd Men's Sheds, Peter Harris, "Rydw i wedi cael fy syfrdanu gan yr holl gymorth rydym yn ei gael gan y Cyngor ac mae cefnogaeth y Cynghorwyr lleol wedi bod yn wych."

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rwy'n falch iawn bod y rhwydwaith yn Abertawe wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf diolch i gymorth gan y Cyngor."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Hydref 2024