Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth Bws Siopa am ddim newydd sbon yn rhoi hwb i ganol y ddinas

Mae gwasanaeth bysus newydd sbon ar gyfer siopwyr sydd am deithio o gwmpas canol dinas Abertawe yn lansio yr wythnos nesaf.

Enw'r gwasanaeth yw'r Bws Siopa ac mae'n cynnig bws gwennol sy'n cysylltu'r orsaf drenau yn y gogledd â'r orsaf fysus yn y de gan stopio ym Marchnad Abertawe ar y ffordd.

Mae'r gwasanaeth ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am i 4.30pm, ac fe ddyluniwyd i'w wneud yn haws nag erioed i siopwyr deithio o amgylch canol y ddinas.

Mae'r Bws Siopa hygyrch yn fws mini â 15 o seddi sy'n cysylltu'r tri lleoliad â man gollwng y farchnad wrth fynedfa Whitewalls.

Mae'n golygu y gall ymwelwyr â chanol y ddinas deithio am ddim yn ôl i'r orsaf fysus neu'r orsaf drenau fel y gallant barhau â'u taith yn haws nag o'r blaen. Bydd hefyd yn darparu mynediad uniongyrchol â chanol y ddinas i ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd Abertawe ar fws neu drên.

Manylion gwasanaeth y Bws Siopa:

Bydd gwasanaeth y Bws Siopa'n dechrau am 9.00am ac yn gorffen am 4.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd y gwasanaeth olaf yn gadael Whitewalls am 4.15pm ac yn gorffen yng ngorsaf drenau'r Stryd Fawr (Gorsaf drenau - uniongyrchol) am 4.30pm

Bydd y gwasanaeth yn gorffen ei daith bob 45 munud a bydd yn aros yn y cilfachau canlynol:

·       Gorsaf Drenau'r Stryd Fawr - (Gorsaf drenau)

·       Whitewalls - (Canol y ddinas)

·       Wellington Street (Y tu allan i'r orsaf fysus)

Os oes angen cymorth neu wybodaeth arnoch o ran gwasanaeth y Bws Siopa, ffoniwch 01792 522980.

Gwybodaeth: https://www.abertawe.gov.uk/bwssiopa

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Rhagfyr 2025