Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys

Mae gan Dreforys ystod o siopau, o siopau gemwaith, siopau atgyweirio esgidiau, gwerthwyr blodau a siopau anrhegion i siopau trin gwallt os ydych am faldodi'ch hun yn dilyn diwrnod o siopa.

Mae hefyd nifer o siopau coffi ac opsiynau o ran bwyd, felly os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn yr ardal, dewch i weld yr hyn sydd ar gael.

Mae nifer o fasnachwyr lleol yn cynnig bag siopa ailddefnyddiadwy 'Siopwch yn Lleol' am ddim felly siopwch yn lleol ac ewch i gasglu eich un chi nawr.

Siopa'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yn Nhreforys yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £3 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Treforys.

Rhestr o fusnesau yn Nhreforys (Excel doc) [21KB]
Woodfield Street yn Nhreforys - cynllun 1 (rhwng cyffordd Slate Street a'r goleuadau traffig) (PDF) [2MB]
Woodfield Street yn Nhreforys - cynllun 2 (rhwng y cylchfan a chyffordd Slate Street) (PDF) [1MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

Dewch i weld pam fod masnachwyr yn annog pobl i barhau i siopa'n lleol yn ystod y cyfyngiadau symud ac wedi hynny

Lansiwyd ymgyrch siopa'n lleol yn Nhreforys ym mis Tachwedd 2020, gyda chefnogaeth arian grant Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi.

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)