Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ar gyfer cenhedlaeth newydd o gyfleusterau sglefrio yn cymryd cam ymlaen

Bydd pobl sy'n dwlu ar sglefrio a beicio BMX yn Abertawe'n mwynhau cenhedlaeth newydd o gyfleusterau o'r radd flaenaf dan gynlluniau gan Gyngor Abertawe.

skate park upgrade

Neilltuwyd dros £1m ar gyfer cyfarpar newydd a fydd yn helpu i roi hwb i chwaraeon sy'n tyfu mewn poblogrwydd ar draws y ddinas.

A nawr mae'r cyngor yn cyflwyno arbenigedd ffres i'w helpu i ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y cyfleusterau cymunedol hoffai'r bobl sy'n dwlu ar sglefrio a beicio BMX eu gweld.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am greu'r rhwydwaith cymunedol gorau o'r cyfleusterau sglefrio, beicio BMX a chwaraeon ar olwynion ymysg yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

"Ac rydym am ddefnyddio arbenigwyr i weithio gyda phobl ifanc a'n cymunedau sglefrio a beicio BMX sefydledig er mwyn helpu i wireddu'r breuddwyd.

"Roedd Cyngor Abertawe wedi chwarae rôl sylweddol wrth greu'r parc sglefrio gwych newydd yn y Mwmbwls sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Nawr rydym am wella ein rhwydwaith o gyfleusterau sglefrio a beicio BMX o amgylch Abertawe, gan weithio gydag arbenigwyr yn y maes fel ein bod ni'n cael gwerth am arian a chyfleusterau y bydd pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i'w defnyddio."

Mae Cyngor Abertawe wedi hysbysebu'i uchelgais i recriwtio rhagor o arbenigedd i'w helpu i gyflwyno ei weledigaeth sglefrio a beicio BMX ar wefan gaffael GwerthwchiGymru. Mae'r cyngor yn ymwybodol bod nifer o arbenigwyr yn y maes hwn a byddai'n croesawu cyflwyniadau gan unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf yn yr hysbyseb.

Gellir dod o hyd i hysbyseb recriwtio'r cyngor ar gyfer ymgynghorwyr arbenigol yma: https://bit.ly/3NLoRpf

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2023